Cyfrannu at asesu unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol

URN: SFJBI203
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at asesu’r risgiau i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae’n cynnwys cael a chofnodi gwybodaeth berthnasol a chynorthwyo â chynllunio ar gyfer yr asesiad.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig, a all gynnwys achosion o drais rhywiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth bresennol am unigolion sy’n ymwneud â’r asesiad, lle mae’r wybodaeth ar gael a’i bod hi’n ddiogel gwneud hynny
  2. nodi unrhyw wybodaeth bellach y mae ei hangen ar gyfer asesu unigolion, gan gynnwys ffynonellau gwybodaeth
  3. cadarnhau gofynion a ffynonellau gwybodaeth gyda phobl berthnasol, lle bo angen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  4. cytuno ar amserlenni a chamau gweithredu ar gyfer casglu gwybodaeth gyda phobl berthnasol eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  5. cael gwybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  6. gwneud trefniadau priodol ar gyfer cyfarfodydd ag unigolion ar amser sy’n gyfleus iddynt a’u galluogi i drafod eu hamgylchiadau
  7. 7darparu gwybodaeth berthnasol i unigolion cyn cyfarfodydd, gan gynnwys manylion am amser, lleoliad a diben y cyfarfod
  8. cyfeirio unrhyw broblemau ac anawsterau at eich rheolwr llinell, gan gynnwys:
    • anawsterau cael gwybodaeth
    • anawsterau trefnu cyfarfodydd
  9. cyfuno cofnodion a threfnu gwybodaeth sy’n dod i law mewn ffyrdd sy’n hwyluso’r defnydd o’r wybodaeth
  10. gwirio a chadarnhau gwybodaeth sy’n dod i law o ran perthnasedd, cywirdeb a pha mor gyfredol ydyw, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  11. mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn gwybodaeth
    1. nodi ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at asesu risg unigolion, gan gynnwys:
      • tebygolrwydd a natur risg niwed, ac agosrwydd y risg
      • risg niwed i unigolion a’u dibynyddion, lle y bo’n berthnasol
  12. asesu arwyddocâd ffactorau allweddol a nodwyd, yn unol ag offer a phrosesau asesu risg
  13. cyflwyno gwybodaeth am asesu risg i bobl eraill, gan gynnwys
    • amlinellu ffactorau allweddol a nodwyd
    • y rhesymau dros eich asesiad
  14. cwblhau asesiadau risg wedi’u cyfiawnhau, ar sail y wybodaeth a gafwyd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  15. hysbysu eich rheolwr llinell pan fyddwch yn nodi pryderon am risg niwed i unigolion
  16. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. rolau, amcanion, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys darparu cymorth i unigolion
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  6. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  7. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  8. effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
  9. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a ffynonellau’r wybodaeth a’r cymorth hynny
  10. rôl asiantaethau cymorth allanol o ran darparu cymorth i unigolion yn eich ardal
  11. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael wrth weithio gydag unigolion
  12. pwysigrwydd peidio â gorfodi eich gwerthoedd a’ch credoau ar bobl eraill
  13. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  14. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  15. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
  16. sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  17. offer, prosesau, gweithdrefnau a dulliau asesu risg
  18. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  19. sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, i fodloni anghenion yr unigolyn, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu defnyddio gan eich sefydliad
  20. gwybodaeth sy’n ofynnol i asesu’r risgiau sy’n effeithio ar unigolion, yn briodol i reoli’r risg niwed iddynt
  21. ffynonellau gwybodaeth berthnasol am unigolion a sut i gael at y rhain
  22. dulliau o wirio a chadarnhau’r wybodaeth a geir
  23. dulliau a thechnegau ar gyfer gwahaniaethu rhwng a nodi:
    ·         tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol
    ·         tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy
    ·         adroddiadau ail-law
  24. pwysigrwydd cynnal cofnodion o ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd a sut i wneud hynny
  25. sut i drefnu gwybodaeth mewn ffyrdd a fydd yn eich helpu i’w dadansoddi a’r fformatau sy’n ofynnol wrth adrodd gwybodaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJBI203

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

rhywiol; cam-drin domestig; asesu; cyfathrebu; deilliannau; trafod; datgelu; amgylchiadau