Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc am gam-drin domestig neu drais rhywiol

URN: SFJBH203
Sectorau Busnes (Suites): Darparu cyngor ac eiriolaeth annibynnol ynghylch trais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chithau’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith plant a phobl ifanc am gam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn dylanwadu ar ymddygiadau a helpu i’w hatal. Mae’n cynnwys eich gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac ymateb i beth maen nhw’n ei ddweud. Fel rhan o’r safon hon, efallai bydd angen hefyd i chi fynd i’r afael ag unrhyw ddatgeliad o gamdriniaeth a allai godi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o gam-drin domestig a thrais rhywiol
  2. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddatblygu mentrau sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc
  3. gyda phlant a phobl ifanc, archwilio pwnc cam-drin domestig a thrais rhywiol, ei effaith ac arwyddion o gamdriniaeth bosibl
  4. cynnal trafodaethau mewn amgylcheddau diogel lle y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan
  5. rhoi arweiniad priodol i blant a phobl ifanc ar beth gallen nhw ei wneud os byddan nhw, neu eu ffrindiau, yn cael profiad o gamdriniaeth
  6. defnyddio arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a’u haddasu i fodloni anghenion unigolion
  7. rhoi gwybod i blant a phobl ifanc am eu hawliau i siarad â pherson annibynnol
  8. rhoi gwybod i blant a phobl ifanc am bobl eraill y gall fod angen iddynt wybod am agweddau ar eu gofal
  9. darparu gwybodaeth i bobl eraill pan fydd cam-drin yn cael ei ddatgelu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  10. gwerthuso sesiynau ymwybyddiaeth a gynhelir gyda phlant a phobl ifanc er mwyn nodi deilliannau a gyflawnwyd ac i lywio sesiynau yn y dyfodol
  11. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  12. gweithio yn unol â phob gofyniad cyfreithiol perthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, gan gynnwys gweithdrefnau amddiffyn a diogelu plant

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt.
  3. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  4. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  5. rôl, cylch gwaith, amcanion a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol.
  6. sut mae gwasanaethau asiantaethau a sefydliadau eraill yn perthyn i’r gwasanaethau y mae eich sefydliad chi yn eu darparu
  7. hawliau plant a phobl ifanc
  8. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
  9. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  10. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  11. effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt
  12. mentrau cenedlaethol a lleol sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig a thrais rhywiol ymhlith plant a phobl ifanc
  13. camsyniadau nodweddiadol a safbwyntiau ystrydebol sydd ar led yn gyhoeddus am lefelau camdriniaeth a’i hachosion
  14. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc
  15. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  16. rhwystrau rhag dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol
  17. arwyddion o gamdriniaeth bosibl ymhlith plant a phobl ifanc a sut gall y rhain gael eu mynegi
  18. dylanwadau ar safbwyntiau a dealltwriaeth plant a phobl ifanc ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol
  19. effaith cam-drin ar iechyd, diogelwch a lles plant a phobl ifanc
  20. ffynonellau gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth
  21. sut i roi arweiniad i blant a phobl ifanc ar gamau y gallant eu cymryd os bydd cam-drin yn digwydd
  22. cyfyngiadau ar gyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl
  23. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig plant a phobl ifanc
  24. pwysigrwydd sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu bodloni
  25. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  26. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  27. asiantaethau, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  28. gofynion y cwricwlwm addysg yn gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig a thrais rhywiol



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJBH203

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Trais rhywiol; cam-drin domestig: plant; phobl ifanc; datgelu; teuluoedd; trafod; addysgu; ymwybyddiaeth; gofalwyr; ysgolion