Herio agweddau’r cyhoedd tuag at gam-drin domestig a thrais rhywiol

URN: SFJBH202
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i herio agweddau’r cyhoedd ac agweddau sefydliadol tuag at gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cydnabyddir bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o raddfa, effaith ac arwyddion cynnar cam-drin posibl yn tueddu i fod yn isel, a gall fod camsyniadau am beth yw cam-drin a phwy sy’n gyfrifol amdano.

Mae’r safon hon yn cynnwys eich gallu i weithredu ynghylch cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth a, hefyd, i herio camsyniadau o’r fath.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi ac ymateb i gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth sefydliadol o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
  2. hyrwyddo buddion codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch cam-drin domestig neu drais rhywiol ymhlith eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  3. gweithio gydag eraill i herio ffactorau a allai effeithio ar unigolion y mae cam-drin domestig neu drais rhywiol wedi effeithio arnynt
  4. herio enghreifftiau o ragfarn yn briodol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  5. defnyddio’r cyfryngau, fel y bo’n briodol, i herio agweddau’r cyhoedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  6. monitro cyfathrebiadau gan eich sefydliad yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, gan wneud yn siŵr nad yw cynnwys yn atgyfnerthu agweddau gwahaniaethol a niweidiol
  7. ceisio cymorth gan eraill pan gewch chi heriau wrth fynd i’r afael ag ymddygiad ac agweddau gwahaniaethol a gormesol
  8. cyflwyno gwybodaeth i bobl eraill sy’n helpu i herio agweddau a dealltwriaeth y cyhoedd
  9. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. rôl, cylch gwaith, amcanion a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  5. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  6. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  7. effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
  8. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a ffynonellau’r wybodaeth a’r cymorth hynny
  9. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael wrth weithio gydag unigolion
  10. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  11. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  12. ffynonellau gwybodaeth ac ymchwil gyfredol, berthnasol am gam-drin domestig a thrais rhywiol
  13. mentrau cenedlaethol a lleol sy’n anelu at • herio agweddau’r cyhoedd ac agweddau sefydliadol
    • codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol
  14. rhwystrau rhag dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd a sefydliadol ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol
  15. sut i ddefnyddio’r cyfryngau i herio agweddau’r cyhoedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad

Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJBH202

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Rhywiol; domestig; herio; cyhoeddus; unigolyn; ymwybyddiaeth; effaith; gwahaniaethu; rhagfarn; hyrwyddo; sefydliadol