Datblygu a gweithredu strategaethau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chi’n datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau sy’n codi ymwybyddiaeth o natur ac effaith cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Bydd y strategaeth a’r cynlluniau y byddwch yn eu datblygu yn cynnwys pa gamau y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, a’u hatal. Mae’n cynnwys eich gallu i weithredu cynlluniau a monitro effaith cynlluniau y cytunwyd arnynt yn erbyn amcanion a nodwyd yn y strategaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi amcanion sydd wedi’u blaenoriaethu ar gyfer mentrau codi ymwybyddiaeth arfaethedig sy’n cyd-fynd ag amcanion strategol eich sefydliad
- nodi a blaenoriaethu cynulleidfaoedd targed yn addas ar gyfer mentrau codi ymwybyddiaeth arfaethedig
- nodi opsiynau cyfathrebu effeithiol a all gyflawni amcanion codi ymwybyddiaeth
- nodi unrhyw risgiau a all fod yn gysylltiedig ag opsiynau codi ymwybyddiaeth sy’n cael eu hystyried
- ceisio cyngor arbenigol gan eraill i lywio strategaethau a chynlluniau ar gyfer codi ymwybyddiaeth
- archwilio cyfleoedd am gysylltiadau strategol â rhanddeiliaid eraill a all gefnogi amcanion codi ymwybyddiaeth
- cytuno ar strategaeth codi ymwybyddiaeth gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr yn unol ag adnoddau sydd ar gael
- nodi dulliau a mesurau perfformiad allweddol i fonitro a gwerthuso’r strategaeth codi ymwybyddiaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- datblygu cynlluniau i weithredu strategaethau
- cytuno gyda chydweithwyr ar y strategaethau a’r cynlluniau i’w datblygu
- cyfleu strategaethau a chynlluniau cytunedig i randdeiliaid a chydweithwyr
- gwneud addasiadau rhesymol i gynlluniau ac adnoddau i gynorthwyo â chyflawni amcanion strategol.
- cofnodi gweithgareddau ac effeithiau cynlluniau mewn ffordd a fydd yn llywio mentrau yn y dyfodol.
- cynnal cofnodion cywir a chyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt.
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- rôl, cylch gwaith, amcanion a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol
- sut mae gwasanaethau asiantaethau a sefydliadau eraill yn perthyn i’r gwasanaethau y mae eich sefydliad chi yn eu darparu
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt
- mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a ffynonellau’r wybodaeth a’r cymorth hwnnw
- mentrau cenedlaethol a lleol perthnasol a’u heffaith ar gyfer datblygu strategaeth sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth
- pwysigrwydd nodi cynulleidfaoedd targed ar gyfer mentrau codi ymwybyddiaeth
- gwahanol grwpiau o bobl sy’n gallu elwa o fentrau codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd
- y prif ddulliau a ddefnyddir i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol a’u cryfderau a’u gwendidau cymharol
- rhwystrau cyffredin rhag dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol
- ffactorau i’w hystyried wrth ddatblygu strategaeth a chynlluniau codi ymwybyddiaeth
- mathau o risg sy’n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig a thrais rhywiol a sut i leihau’r rhain
- sut i ddatblygu amcanion strategol, camau gweithredu ac atebolrwydd
- sut i ddatblygu cynlluniau a chyllidebau cysylltiedig
- pwysigrwydd nodi mesurau perfformiad ar gyfer mentrau codi ymwybyddiaeth
- pwysigrwydd ymgynghori ag eraill yn ystod datblygiad strategaeth a chynlluniau, a sut i wneud hyn
- pwysigrwydd cyflwyno cynlluniau o fewn cyllidebau cytunedig a sut i gyflawni hyn.
- ffyrdd o fonitro gweithgareddau yn erbyn cynlluniau a chyllidebau.
- materion cyhoeddus a moesegol sy’n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.