Ôl-drafod a rhoi cymorth emosiynol i gydweithwyr
URN: SFJBG401
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
26 Mai 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chithau’n ôl-drafod ac yn rhoi cymorth emosiynol i gydweithwyr, gan gynnwys cydweithwyr nad oes gennych gyfrifoldeb amdanynt fel rheolwr.
Hefyd, mae’n ymwneud â’ch gallu i symbylu pobl eraill, yn ogystal â bod yn effro i arwyddion o drallod a darparu cymorth priodol iddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trafod baich gwaith ac anghenion cymorth emosiynol pobl eraill gyda nhw
- rhoi cymorth a chyngor i bobl eraill yn eich maes gwaith pan fydd angen, gan gynnwys: • pan fyddwch chi’n nodi arwyddion trallod.
• pan y gall eu hemosiynau effeithio ar eu gallu i ymgysylltu ag eraill. - symbylu a chefnogi eraill yn eich maes gwaith i gyflawni eu hamcanion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cydnabod cyflawniadau pobl eraill tuag at eu hamcanion mewn ffyrdd sy’n dangos cydnabyddiaeth ac yn dathlu llwyddiant
- caniatáu i bobl eraill ddatblygu’u ffyrdd eu hunain o weithio o fewn ffiniau cytunedig, gan gynnwys gwneud eu penderfyniadau eu hunain
- darparu cymorth i bobl eraill arwain ym meysydd eu harbenigedd, yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau.
- cydnabod penderfyniadau ac arbenigedd pobl eraill mewn ffyrdd sy’n dangos parch a’ch bod yn derbyn hynny, gan gynnwys pobl sydd: • yn arwain fel arbenigwyr mewn meysydd gwaith penodol.
• yn defnyddio gwahanol ffyrdd o weithio. - bod ar gael ar gyfer trafodaethau i alluogi eraill i rannu eu teimladau a’u profiadau
- nodi a rhannu mathau o gymorth a ffynonellau cymorth sydd ar gael gyda phobl eraill
- cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag eraill sy’n gweithio yn eich maes gwaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau cyfathrebu
- gweithio gydag eraill mewn ffyrdd sydd: • yn defnyddio technegau gwrando gweithredol
• yn dangos eich dibynadwyedd
• yn annog ffydd
• yn sicrhau cefnogaeth pobl yn eich maes gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt.
- rôl, amcanion, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad
- gwahaniaethau rhwng rheoli a darparu cymorth heblaw fel rheolwr
- y mathau o gymorth a chyngor y bydd ar bobl eu hangen, yn ôl pob tebyg
- ffynonellau cymorth sydd ar gael a sut i gael at y rhain, gan gynnwys rhwydweithiau cymheiriaid a goruchwyliaeth glinigol
- sut i ymateb i anghenion cymorth a chyngor pobl eraill, gan gynnwys staff rheng flaen a staff cymorth
- anawsterau a heriau a allai effeithio ar bobl a sut i liniaru’r rhain
- arwyddion a symptomau straen a thrallod ymhlith cydweithwyr
- pwysigrwydd monitro cydweithwyr am arwyddion straen a thrallod
- camau gweithredu sy’n briodol i gefnogi cydweithwyr sy’n arddangos arwyddion straen a thrallod
- pwysigrwydd cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr trwy sesiynau ôl-drafod a chyfarfodydd tîm
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- pwysigrwydd annog pobl eraill i gymryd cyfrifoldeb a sut i gyflawni hyn
- sut i ymrymuso pobl eraill
- sut i ddefnyddio dulliau gwahanol ar gyfer: • annog a symbylu pobl eraill.
• cefnogi pobl eraill.
• cydnabod cyflawniad a llwyddiant.
• dangos parch a derbyn pobl.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Mai 2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Justice
URN gwreiddiol
SFJBG401
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)
Cod SOC
3229
Geiriau Allweddol
rhywiol; unigolyn; darpariaeth; annog; trafod; cadarnhaol; symbylu; domestig; cymorth;