Ymchwilio i effeithiolrwydd gwasanaethau a ddarperir i fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd ag ymchwil i effeithiolrwydd y gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu gyda’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol. Mae’n cynnwys cytuno ar amcanion ar gyfer ymchwil, gan nodi dulliau priodol a dadansoddi’r deilliannau. Fel rhan o’r safon hon, efallai bydd angen i chi ymchwilio i effeithiolrwydd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan sefydliadau eraill, lle bo hynny’n briodol.
Bydd ymchwil y byddwch yn ei wneud yn cynnwys ceisio barn unigolion sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol a bydd angen ymgymryd â’r ymchwil mewn modd sensitif i anghenion unigolion, yn ogystal â bodloni polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad a gofynion rheoleiddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- archwilio’r angen am weithgareddau ymchwil, diben y gweithgareddau a’r gofynion ar gyfer y gweithgareddau ymchwil, gyda phobl eraill
- nodi a chasglu gwybodaeth ofynnol sy’n llunio gweithgareddau ymchwil arfaethedig
- nodi gofynion ar gyfer ymchwil arfaethedig, gan gynnwys: • amserlen
• adnoddau
• cyllideb - gweithredu prosesau ar gyfer cael gwybodaeth ac adborth gan bobl eraill, sy’n bodloni anghenion ymchwil y cytunwyd arnynt
- cyfathrebu ag eraill mewn ffyrdd sy’n helpu i gyflawni deilliannau dymuniedig yr ymchwil ac sy’n briodol i’r ymatebwyr sy’n cymryd rhan
- monitro gweithgareddau ymchwil a chynnydd yn erbyn cynlluniau, cyllidebau ac amcanion cysylltiedig y cytunwyd arnynt
- nodi amrywiannau i gynlluniau ymchwil a’r gyllideb gytunedig a chymryd camau i fynd i’r afael â’r rhain yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
- cyfuno ac asesu adborth gan eraill, fel y bo gofyn, i lywio gweithgareddau a gofynion ymchwil
- nodi tueddiadau a phatrymau a all lywio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol yn unol â dulliau ymchwil
- mynegi unrhyw ragdybiaethau a wnaed a risgiau sy’n gysylltiedig wrth ddadansoddi data, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- nodi camau i’w cymryd i ymateb i adborth gan eraill, sy’n gwella gallu eich sefydliad i fodloni gofynion rhanddeiliaid
- cyflwyno syniadau a gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth gan bobl eraill
- cynnal cofnodion cyfredol o ddadansoddiadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- rhoi gwybod i bobl eraill am ganlyniadau dadansoddiadau gan ddefnyddio fformatau sy’n bodloni eu hanghenion ac sy’n addas i’r wybodaeth a roddir
- cymryd camau i sicrhau bod pobl eraill sy’n gysylltiedig yn cydymffurfio â gofynion yn ystod gweithgareddau ymchwil
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt.
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- sut mae gwasanaethau asiantaethau a sefydliadau eraill yn perthyn i’r gwasanaethau y mae eich sefydliad chi yn eu darparu
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol.
- pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a moesegol perthnasol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio ymhlith rhanddeiliaid, gan gynnwys unigolion.
- mathau o wybodaeth a ffynonellau gwybodaeth a all hwyluso gwneud penderfyniadau a chynllunio gweithredu effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau i unigolion sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
- dulliau o gael adborth gan unigolion a rhanddeiliaid eraill
- cryfderau a chyfyngiadau gwahanol ddulliau o gael adborth
- dulliau a thechnegau ymchwil
- sut i nodi tueddiadau a phatrymau
- pwysigrwydd sicrhau bod y bobl sy’n ymwneud â’r ymchwil yn deall eu rolau, eu cyfrifoldebau a dulliau o gyflawni hyn
- sut i ddewis technegau cyfathrebu sy’n briodol i wahanol ymatebwyr ac sy’n bodloni gofynion y prosiect ymchwil
- pwysigrwydd sicrhau gwrthrychedd wrth werthuso adborth
- ffactorau i’w hystyried wrth asesu dilysrwydd adborth
- sut i ddadansoddi buddiannau’r rhai sy’n rhoi adborth, gan gynnwys y goblygiadau i’r adborth a roddir
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun ei chael wrth weithio gydag unigolion.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Unrhyw ymddygiad neu batrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Ffordd o weithio i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei gynnig i rywun sy’n cael profiad o gam-drin domestig yn cael ei gynnig ar sail eu hanghenion a’i fod yn adeiladu ar eu cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’n cydnabod y wybodaeth sydd ganddynt am yr unigolyn sy’n defnyddio camdriniaeth. Gyda’r hawliau, gall y sawl nad yw’n cam-drin feithrin ei annibyniaeth, dod dros y trawma a gafodd a chael ei fywyd yn ôl, a dod o hyd i newid sy’n para.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Trais Rhywiol
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Dull seiliedig ar gryfderau
Dyma ddull gweithio gydag unigolion sy’n cydnabod eu cryfder i oresgyn eu profiadau
Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.