Gwerthuso ansawdd gweithgareddau sy’n mynd i’r afael cham-drin domestig a thrais rhywiol

URN: SFJBG301
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i fonitro a gwerthuso ansawdd gweithgareddau, mentrau a rhaglenni gwaith sy’n ceisio mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, a all gynnwys y cymorth sy’n cael ei ddarparu i unigolion.

Fel rhan o’r safon hon, bydd disgwyl i chi gynnwys unigolion yn y broses fonitro a gwerthuso, ynghyd ag unrhyw gydweithwyr ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r gwaith sy’n cael ei fonitro.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi amcanion cytunedig ar gyfer gweithgareddau eich sefydliad sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  2. dewis meini prawf i werthuso deilliannau ac allbynnau gweithgareddau y mae eich sefydliad yn eu darparu i unigolion
  3. nodi dulliau i fonitro cynnydd yn erbyn amcanion a gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  4. monitro’r gweithgareddau a’r cymorth y mae eich sefydliad yn eu darparu i unigolion, yn unol â dulliau a meini prawf cytunedig
  5. nodi materion sy’n effeithio ar gynnydd gweithgareddau a chymorth i unigolion, yn unol â dulliau monitro a meini prawf gwerthuso cytunedig
  6. mynd i’r afael â materion a nodwyd sy’n effeithio ar gynnydd gweithgareddau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  7. archwilio amgyffredion unigolion am ansawdd y cymorth sy’n cael ei ddarparu gan eich sefydliad
  8. cefnogi pobl eraill sy’n ymwneud â chyflwyno gweithgareddau a rhaglenni i roi adborth ar gynnydd yn erbyn yr amcanion cytunedig
  9. cyfathrebu â phobl eraill mewn ffyrdd sy’n cydnabod arbenigedd a chyfraniad pobl eraill ac sy’n cydnabod eu rôl
  10. gydag eraill, adolygu’r deilliannau a gafwyd o weithgareddau gydag unigolion yn unol ag amcanion, dulliau monitro a meini prawf gwerthuso cytunedig
  11. archwilio’r deilliannau a gyflawnwyd gydag unigolion yn erbyn amcanion a meini prawf gwerthuso cytunedig
  12. nodi camau gweithredu a dulliau yn y dyfodol i fynd i’r afael â materion a effeithiodd ar lwyddiant gweithgareddau
  13. darparu gwybodaeth i bobl eraill am weithgareddau effeithiol, gan gynnwys: • amlinellu natur a diben y gweithgareddau
    • pam a sut y cyflawnodd gweithgareddau eu hamcanion
  14. defnyddio gwybodaeth am weithgareddau effeithiol i gytuno ag eraill ar sut y gellid gwella gweithgareddau yn y dyfodol
  15. cynnal cofnodion cywir a chyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  16. cynnal cyfrinachedd yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. sut mae gwasanaethau asiantaethau a sefydliadau eraill yn perthyn i’r gwasanaethau y mae eich sefydliad chi yn eu darparu
  5. beth yw cam-drin domestig a thrais a cham-drin rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  6. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  7. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  8. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  9. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio
  10. ffynonellau gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
  11. mentrau cenedlaethol a lleol perthnasol a’u heffaith ar fonitro gwasanaethau i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn eich cymuned
  12. pwysigrwydd monitro a gwerthuso effaith gweithgareddau sy’n anelu at fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  13. dulliau o fonitro a gwerthuso gweithgareddau perthnasol, gan gynnwys ffactorau allweddol i’w hystyried
  14. pwysigrwydd cynnwys unigolion, cydweithwyr ac asiantaethau eraill mewn gweithgareddau
  15. dulliau o sicrhau bod pobl eraill yn ymwneud â monitro a gwerthuso
  16. sut i osod amcanion a meini prawf i werthuso llwyddiant gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  17. ffynonellau gwybodaeth berthnasol sy’n briodol i fonitro gweithgareddau sy’n anelu at fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, a sut i gael at y rhain
  18. dulliau o wirio a chadarnhau’r wybodaeth sy’n angenrheidiol
  19. sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac adroddiadau ail-law
  20. sut i hyrwyddo llwyddiant gweithgareddau a rhaglenni ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  21. pwysigrwydd rhannu arfer effeithiol gyda phobl eraill a dulliau o gyflawni hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Unrhyw ymddygiad neu batrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb.

Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Ffordd o weithio i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei gynnig i rywun sy’n cael profiad o gam-drin domestig yn cael ei gynnig ar sail eu hanghenion a’i fod yn adeiladu ar eu cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’n cydnabod y wybodaeth sydd ganddynt am yr unigolyn sy’n defnyddio camdriniaeth. Gyda’r hawliau, gall y sawl nad yw’n cam-drin feithrin ei annibyniaeth, dod dros y trawma a gafodd a chael ei fywyd yn ôl, a dod o hyd i newid sy’n para.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Trais Rhywiol
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Dull seiliedig ar gryfderau
Dyma ddull gweithio gydag unigolion sy’n cydnabod eu cryfder i oresgyn eu profiadau

Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJBG301

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

rhywiol; unigolyn; monitro; gwerthuso; ansawdd; rhaglenni; mentrau; gwasanaethau; gweithgareddau