Sicrhau adnoddau ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i nodi ffynonellau cyllid ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith gydag unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol.
Mae’n cynnwys cyflwyno cynigion ar gyfer cyllid a mathau eraill o gymorth, a thrafod telerau eich cynnig er mwyn dod i derfyn llwyddiannus.
Fel rhan o’r safon hon, bydd disgwyl i chi sefydlu perthynas waith dda gyda deiliaid cyllid gwirioneddol a darpar ddeiliaid cyllid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi adnoddau y mae eu hangen i gyflawni mentrau arfaethedig eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys: • ffynonellau cyllid ac adnoddau
• amcanion a buddiannau’r rhai sy’n darparu cyllid ac adnoddau
• costau a risgiau i’r rhai a all ddarparu cyllid ac adnoddau - creu rhestr o unigolion a sefydliadau a all ddarparu adnoddau sy’n cefnogi mentrau arfaethedig eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
- paratoi cynigion wedi’u costio ar gyfer cyllid ac adnoddau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cyflwyno gwybodaeth i bobl eraill berthnasol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cytuno ar gynigion ac argymhellion ar gyfer cyllid ac adnoddau gyda rhanddeiliaid perthnasol
- cyflwyno cynigion, bidiau a cheisiadau i ddarparwyr cyllid ac adnoddau eraill yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni gofynnol
- ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth i egluro bidiau a chynigion yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni gofynnol
- cytuno ar drefniadau cytundebol gyda darparwyr cyllid ac adnoddau eraill yn unol â bidiau a chynigion cytunedig
- rhoi gwybod i bobl berthnasol eraill am ganlyniad bidiau, cynigion a cheisiadau yn unol â gofynion ac amserlenni gofynnol
- rhoi gwybod i’r rhai sy’n defnyddio adnoddau am unrhyw delerau ac amodau sy’n berthnasol i’r defnydd o adnoddau, yn unol â threfniadau cytundebol cytunedig
- datblygu cynlluniau wrth gefn sy’n mynd i’r afael â materion posibl sy’n effeithio ar gyllid ac adnoddau gofynnol
- monitro effeithiolrwydd prosesau canfod ar gyfer mentrau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- diwygio prosesau canfod os bydd angen, mewn ffyrdd sy’n gwella gwaith a phrosesau yn y dyfodol
- monitro pobl eraill sy’n ymwneud â sicrhau adnoddau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
15.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt.
- gofynion yn gysylltiedig â chyllid ac adnoddau ar gyfer rhaglenni i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, a’u heffaith ar eich maes gweithredu
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau eraill y gallech weithio gyda nhw, a’u rôl
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn y gymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- effaith cam-drin ar bawb y mae wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion.
- mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio.
- ffynonellau gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
- mentrau cenedlaethol a lleol a’u heffaith ar wasanaethau sydd â’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn eich cymuned
- amcanion, strategaethau a chynlluniau eich sefydliad
- mentrau arfaethedig eich sefydliad, gan gynnwys y rhai sydd angen cyllid ac adnoddau
- darparwyr cyllid ac adnoddau eraill a ddefnyddir gan eich sefydliad
- darparwyr posibl eraill cyllid a’u buddion a’u risgiau cysylltiedig
- polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer caffael adnoddau
- meini prawf sefydliadol ar gyfer dewis mathau o gyllid ac adnoddau eraill, a dewis eu darparwyr
- ffynonellau gwybodaeth am gyfleoedd adnoddau, gan gynnwys cyfleoedd o fewn y sectorau statudol ac elusennol
- sut i greu achos busnes
- sut i hyrwyddo buddion eich mentrau arfaethedig
- amcanion a chylch gwaith sefydliadau cyllido ac unrhyw gyfyngiadau ar y ffordd y maent yn gweithredu
- gwybodaeth y mae ar sefydliadau cyllido eu hangen, a’u templedi, eu hoffer a’u gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno bidiau, ceisiadau a chynigion
- y bobl y dylid ymgynghori â nhw ynghylch cynigion ac argymhellion am gael cyllid ac adnoddau
- gwahanol fathau o gytundebau a threfniadau cytundebol gyda darparwyr cyllid a beth ddylai’r rhain ei gynnwys
- camau y gall fod angen eu cymryd os bydd prinder cyllid
- problemau cyffredin a all ddigwydd wrth gael cyllid ac adnoddau
- pwysigrwydd cynllunio wrth gefn ar gyfer cael cyllid ac adnoddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.