Datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol

URN: SFJBG201
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â phennu’r blaenoriaethau strategol y bydd adnoddau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn canolbwyntio arnynt. Mae’n cynnwys datblygu, gweithredu a rheoli cynlluniau strategol cysylltiedig ar gyfer cyflwyno gwasanaethau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal cofnodion a gwybodaeth am dueddiadau a datblygiadau lleol a chenedlaethol ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol, a all lywio strategaeth eich sefydliad
  2. cael gwybodaeth gan asiantaethau perthnasol am: • ardaloedd daearyddol y cymunedau
    • yr ardaloedd daearyddol â’r anghenion mwyaf am fentrau sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  3. nodi meysydd â blaenoriaeth y mae angen canolbwyntio adnoddau eich sefydliad arnynt yn unol â gwybodaeth a gasglwyd, a: •                     chytuno ar y rhain gydag eraill
    •                     sefydlu sail resymegol ar gyfer y rhain
    •                     cyfiawnhau eich casgliadau
  4. adolygu mentrau y mae sefydliadau eraill wedi ymgymryd â nhw a all lywio ymarfer a strategaeth y mae eich sefydliad wedi’u hystyried
  5. asesu opsiynau am fentrau a gwasanaethau y gallai eich sefydliad eu cynnig, a: • chadarnhau bod y rhain yn gyson â meysydd â blaenoriaeth a’u hanghenion
    • sefydlu’r ffordd orau o fynd i’r afael ag anghenion meysydd â blaenoriaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  6. monitro strategaeth a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn erbyn nodau ac amcanion bwriadedig er mwyn nodi a ydynt yn addas at eu diben
  7. gwneud argymhellion ar gyfer gwella strategaeth a gweithdrefnau gyda thystiolaeth yn sylfaen iddynt
  8. cyflwyno argymhellion â chyfiawnhad ar gyfer gwella’r strategaeth a’r ddarpariaeth i bobl eraill ar sail tystiolaeth, gan gynnwys y buddion y bydd y rhain yn eu cynnig
  9. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r strategaeth bosibl ar gyfer mentrau a gwasanaethau yn unol â gweithdrefnau asesu risg, a: • chydbwyso risgiau a nodir gyda’r deilliannau dymuniedig
  10. archwilio cyfleoedd am bartneriaethau strategol a chysylltiadau ag asiantaethau eraill i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  11. cytuno ar ffocws adnoddau a mentrau a gwasanaethau cysylltiedig eich sefydliad gyda chydweithwyr ac asiantaethau eraill
  12. nodi’r camau gweithredu a’r adnoddau y mae eu hangen i weithredu’r strategaeth gytunedig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  13. nodi mesurau perfformiad allweddol ar gyfer mentrau a gwasanaethau sy’n cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys dulliau ar gyfer: •                     monitro
    •                     gwerthuso
  14. monitro cynnydd mentrau strategol yn erbyn cynlluniau cytunedig yn unol â’r mesurau monitro a nodwyd
  15. nodi amrywiadau sy’n effeithio ar gynnydd yn erbyn cynlluniau a: • rhoi gwybod i bobl eraill am y rhain yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
    • mynd i’r afael â’r rhain yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
    • rhoi adborth rheolaidd ar gynnydd yn erbyn cynlluniau i bobl eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni ar gyfer darparu gwasanaethau i unigolion a’u heffaith ar eich strategaeth
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr egwyddorion, y broses a’r diben sy’n sylfaen i ddatblygu polisi a strategaeth a sut i gymhwyso’r rhain
  4. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  5. rôl asiantaethau cymorth allanol sy’n ymwneud â mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn eich cymuned a sut mae’r rhain yn perthyn i’ch sefydliad
  6. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  7. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  8. effaith cam-drin ar bawb y mae wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion, plant a dibynyddion
  9. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu ceisio, ac sydd ar gael iddynt
  10. mentrau cenedlaethol a lleol a’u heffaith ar ddatblygu gwasanaethau gyda’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn eich cymuned
  11. eich cymuned leol a’r ffactorau sy’n effeithio ar y galw am wasanaethau sydd â’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  12. pwysigrwydd cynllunio tymor hir a thymor canolig i lwyddiant sefydliad
  13. ffactorau i’w hystyried wrth broffilio gwahanol gymunedau
  14. anghenion a disgwyliadau eich asiantaeth chi ac asiantaethau eraill yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau a mentrau gyda’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  15. wysigrwydd darparu cymorth a gwasanaethau i unigolion, gan gynnwys y grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’ hynny
  16. dulliau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’ ac eraill
  17. dulliau a thechnegau ar gyfer dylanwadu ar bobl eraill
  18. ffynonellau gwybodaeth a all helpu gyda blaenoriaethu adnoddau
  19. adnoddau sydd ar gael i’ch sefydliad
  20. pwysigrwydd ymgynghori ag asiantaethau eraill wrth geisio cytuno ar feysydd â blaenoriaeth a rhaglenni cysylltiedig
  21. sut i amlygu risgiau posibl yn gysylltiedig â chyflawni nodau
  22. pwysigrwydd ymgynghori â phobl berthnasol eraill yn ystod datblygiad y cynllun strategol a sut i wneud hynny
  23. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng unigolion ac asiantaethau
  24. sut i ddatblygu mesurau a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso llwyddiant mentrau a gwasanaethau
  25. egwyddorion cyfrinachedd
  26. sut i ddatblygu canllawiau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng unigolion ac asiantaethau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall.
Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.







Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJ BG201

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Darparu cyngor ac eiriolaeth annibynnol ar gam-drin domestig a thrais rhywiol rhywiol; unigolyn; gweithredu; strategol; gwasanaethau; mentrau