Gwerthuso gofynion yn gysylltiedig â mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
URN: SFJBG102
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
26 Mai 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i nodi a blaenoriaethau gofynion ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau cysylltiedig gyda’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’n cynnwys nodi cyfleoedd cysylltiedig i wella darpariaeth eich sefydliad o fewn eich cymuned.
Hefyd, mae’n cwmpasu gwerthuso cyfleoedd a buddion posibl gwasanaethau a darpariaeth, ar sail adolygiadau realistig o anghenion y gymuned.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael profiad o gam-drin domestig, a all gynnwys trais rhywiol yng nghyd-destun trais domestig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gwasanaethau ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, sy’n bodloni anghenion eich cymuned
- gwerthuso tueddiadau a datblygiadau gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
- nodi lefel a natur y ddarpariaeth gwasanaethau sydd ar gael sy’n bodloni anghenion eich cymuned, gan gynnwys: •gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu
•cryfderau a gwendidau’r ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig gan eich sefydliad - nodi cyfleoedd a chyfyngiadau o ran gofynion y ddarpariaeth gwasanaethau sy’n bodloni anghenion eich cymuned
- nodi bylchau yn y wybodaeth sydd ar gael sy’n llywio dadansoddiad o ddarpariaeth gwasanaethau yn eich cymuned
- asesu risg bosibl bylchau mewn gwybodaeth i unrhyw gasgliadau y gellid eu llunio
- mynd i’r afael â bylchau a nodwyd mewn gwybodaeth, sy’n effeithio ar werthuso gofynion am ddarpariaeth gwasanaethau yn eich cymuned
- dod i gasgliadau ynghylch gofynion gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol ar sail y wybodaeth sydd ar gael, ac sy’n bodloni anghenion eich cymuned
- gwerthuso gwasanaethau a gweithgareddau cysylltiedig eich sefydliad yn erbyn anghenion y bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, ac ystyried: •y galw tebygol ar wasanaethau a gweithgareddau cysylltiedig
•gofynion adnoddau
•ffactorau sy’n dylanwadu ar y nifer sy’n ymgymryd â gwasanaethau a gweithgareddau cysylltiedig - darparu argymhellion ar gyfer camau gweithredu â blaenoriaeth sy’n bodloni anghenion eich cymuned
- cyflwyno gwybodaeth a dadleuon i eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys: •camau gweithredu â blaenoriaeth
•rhagdybiaethau a wnaed
•risgiau sy’n gysylltiedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- pobl eraill berthnasol y gall fod angen i chi weithio gyda nhw, gan gynnwys: •asiantaethau a sefydliadau
•cydweithwyr
•cynrychiolwyr cymunedol
•rhanddeiliaid
•unigolion - rôl, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gamdriniaeth a thrais a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- effaith camdriniaeth a thrais ar bawb y maent yn effeithio arnynt
- mathau o wybodaeth a chymorth sy’n cael eu ceisio gan bobl y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt
- ffynonellau gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i’r bobl y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt
- mentrau cenedlaethol a lleol perthnasol a’u heffaith ar gyfer datblygu gwasanaethau i fynd i’r afael â thrais domestig a rhywiol
- pwysigrwydd archwilio a nodi tueddiadau a datblygiadau sy’n effeithio ar y galw am wasanaethau
- dulliau o archwilio a nodi tueddiadau a datblygiadau ar gyfer y galw am wasanaethau i fynd i’r afael â thrais domestig a rhywiol yn eich cymuned
- dulliau o gael adborth oddi wrth asiantaethau a rhanddeiliaid perthnasol, a manteision ac anfanteision cymharol gwahanol ddulliau
- materion a allai fod yn berthnasol i sefydlu’r gofynion am ddarpariaeth gwasanaethau yn eich cymuned
- cydberthynas dangosyddion cam-drin domestig a thrais rhywiol â ffrydiau eraill mynd i’r afael â throseddau treisgar
- sut i werthuso, blaenoriaethu a chyflwyno cyfleoedd am wasanaethau sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
- pwysigrwydd gwneud asesiad ariannol o’r adnoddau sy’n gysylltiedig â datblygu cyfleoedd a nodwyd a sut i wneud hyn
- gwasanaethau a ddarperir yn eich cymuned sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
- rolau a chyfrifoldebau asiantaethau allanol a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn eich cymuned
- dulliau o gynnwys asiantaethau allanol a rhanddeiliaid
- .pwysigrwydd cynllunio tymor hir a thymor canolig i lwyddiant sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
26 Mai 2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Justice
URN gwreiddiol
SfJ BG102
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)
Cod SOC
3229
Geiriau Allweddol
unigolyn; rhywiol; mynd i’r afael; gwerthuso; tueddiadau; datblygiadau; blaenoriaethu; darpariaeth; gwasanaethau; cymuned; gofynion