Ymchwilio i’r gofynion am wasanaethau sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol

URN: SFJBG101
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i’r gofynion am wasanaethau i fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol yn y gymuned leol. Mae’n cynnwys eich gallu i ddadansoddi’r ddarpariaeth bresennol ac archwilio cyfleoedd i ddatblygu’r gwasanaethau y mae eu hangen.

Mae’r safon hon i ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael profiad o gam-drin domestig, a all gynnwys achosion o drais rhywiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu gwybodaeth am eich cymuned leol, sy’n llywio’ch dealltwriaeth o’r angen am wasanaethau’n gysylltiedig â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  2. cael adborth gan bobl eraill berthnasol am y ddarpariaeth gwasanaethau ar hyn o bryd a’r cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau
  3. datblygu systemau i gasglu a rheoli gwybodaeth a deallusrwydd sy’n llywio ac sy’n ategu gofynion gwasanaethau
  4. asesu adborth gan bobl eraill berthnasol i nodi tueddiadau a phatrymau sy’n awgrymu cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau i unigolion
  5. nodi’r ddarpariaeth bresennol yn eich cymuned sy’n bodloni blaenoriaethau ac anghenion unigolion
  6. nodi ffactorau sy’n effeithio ar ba un a yw unigolyn yn ymgymryd â gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli neu ar fynediad unigolyn at ddarpariaeth bresennol
  7. rhannu eich dadansoddiad o anghenion a darpariaeth gwasanaethau, a’r nifer sy’n ymgymryd â gwasanaethau, gyda phobl berthnasol eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  8. rchwilio effaith eich dadansoddiad gyda phobl berthnasol eraill i amlygu cyfleoedd i wella’r ddarpariaeth cymorth a gwasanaethau
  9. cytuno ar gyfleoedd posibl gyda phobl berthnasol eraill i ddatblygu a gwella gwasanaethau yn eich cymuned i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
  10. cyflwyno gwybodaeth i bobl berthnasol eraill mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
  11. cynnal cyfrinachedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  12. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni, ar gyfer:
  2. mentrau cenedlaethol a lleol a’u heffaith er mwyn datblygu gwasanaethau ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  3. darparu gwasanaethau i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
  4. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  5. cylch gwaith, rôl a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  6. rôl asiantaethau a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol a sut mae rôl, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad yn perthyn
  7. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  8. arwyddion o gam-drin domestig neu drais rhywiol, a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  9. effaith cam-drin ar bawb y mae wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion, plant a dibynyddion
  10. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, neu ffynonellau’r wybodaeth a’r cymorth hynny
  11. mathau o wybodaeth sydd ar gael gan asiantaethau perthnasol a rhanddeiliaid eraill yn briodol i sefydlu anghenion am wasanaethau
  12. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  13. dulliau o gael adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu asiantaethau a rhanddeiliaid eraill
  14. dulliau ymchwil perthnasol ar gyfer cael adborth a gwybodaeth
  15. pwysigrwydd gwirio gwrthrychedd wrth werthuso adborth
  16. ffactorau i’w hystyried wrth asesu dilysrwydd adborth
  17. y goblygiadau y gall buddiannau pobl eraill eu cael wrth nodi a gwerthuso cyfleoedd am wasanaeth
  18. natur a graddfa gwasanaethau a darpariaeth bresennol yn eich cymuned leol
  19. demograffeg ac amrywiaeth eich cymuned leol a defnyddwyr eich gwasanaethau
  20. tueddiadau, patrymau a datblygiadau yn y ddarpariaeth gwasanaethau
  21. pwysigrwydd gwirio am fylchau yn y ddarpariaeth bresennol o gymharu ag anghenion eich cymuned leol, a sut i wneud hynny
  22. pwysigrwydd cadarnhau bod eich ymchwil yn ddigonol i gyfiawnhau casgliadau a lunnir o’i chanlyniadau
  23. pwysigrwydd cadarnhau bod y cyfleoedd a nodwyd yn bodloni rôl, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad
  24. ffynonellau gwybodaeth a chymorth wrth ymchwilio i anghenion y gymuned ac archwilio’r anghenion hynny
  25. cyfleoedd i ehangu’r gwasanaethau a ddarperir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau



Geirfa

Cam-drin Domestig
Unrhyw ymddygiad neu batrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb.

Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad  anghenion
Ffordd o weithio i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei gynnig i rywun sy’n cael profiad o gam-drin domestig yn cael ei gynnig ar sail eu hanghenion a’i fod yn adeiladu ar eu cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’n cydnabod y wybodaeth sydd ganddynt am yr unigolyn sy’n defnyddio camdriniaeth. Gyda’r hawliau, gall y sawl nad yw’n cam-drin feithrin ei annibyniaeth, dod dros y trawma a gafodd a chael ei fywyd yn ôl, a dod o hyd i newid sy’n para.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Trais rhywiol
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Dull seiliedig ar gryfderau
Dyma ddull gweithio gydag unigolion sy’n cydnabod eu cryfder i oresgyn eu profiadau

Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJBG101

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

unigolyn; dioddefwr; goroeswr; rhywiol; darpariaeth; ymchwilio; gwybodaeth; cymuned