Darparu cymorth i unigolion i reoli effeithiau eu profiad

URN: SFJBE3
Sectorau Busnes (Suites): Cyfiawnder Cymunedol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth i unigolion sydd wedi bod trwy brofiad trawmatig i reoli’r effeithiau ar eu bywyd.

Mae’r cymorth hwn yn mynd y tu hwnt i unrhyw gymorth cychwynnol y gallent fod wedi’i gael. Mae’n cynnwys siarad ag unigolion am yr hyn sydd wedi digwydd a sut mae wedi effeithio arnynt, ac ystyried beth allai eu galluogi i ymdopi â’u profiad. Hefyd, mae’n cynnwys asesu ar y cyd â’r unigolion y cymorth pellach y gall fod ei angen ar yr unigolyn neu ei deulu i reoli effeithiau ei brofiad.

Gall y cymorth a ystyrir amrywio o wybodaeth, cwnsela a chymorth emosiynol i gymorth â gofal iechyd, diogelwch ac amddiffyniad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal cyfarfodydd mewn amgylchedd priodol a diogel i unigolion, gan ystyried eu hanghenion corfforol ac emosiynol
  2. croesawu unigolion a chyflwyno’ch hun, tra’n tawelu eu meddwl a’u hannog i deimlo’n gartrefol, yn unol â’u hanghenion
  3. esbonio polisi eich sefydliad yn gysylltiedig â chyfrinachedd
  4. nodi’r ystod o wasanaethau y gall eich sefydliad eu cynnig
  5. gwirio bod pob person sy’n gwmni i unigolion yn deall ei rôl yn y broses
  6. ceisio cyngor gan eraill pan fydd trallod neu ymateb yr unigolyn yn nodi bod angen cymorth pellach
  7. gydag unigolion, archwilio’r agweddau ar eu bywyd y mae eu profiad wedi effeithio arnynt a chytuno ar ba flaenoriaethau i fynd i’r afael â nhw
  8. ymateb i’r pwyntiau a wnaed, gan gyfathrebu gan ddefnyddio technegau sy’n addas i anghenion a galluoedd unigolion
  9. trin unigolion gydag urddas a pharch, gan dderbyn yr hyn maen nhw’n ei ddweud heb farnu
  10. gweithio gydag unigolion i nodi’r hyn y gallant ymdopi ag ef eu hunain yn eu barn nhw, a ble mae angen cymorth arnynt gan eraill
  11. adolygu ffyrdd ymlaen gydag unigolion sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion, eu lles a’u diogelwch ac anghenion, lles a diogelwch unrhyw ddibynyddion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  12. cynnal diogelwch a lles unigolion pan mae hynny dan fygythiad, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  13. trafod y camau nesaf ac adolygu llinellau amser gydag unigolion a cheisio eu cydsyniad i ffordd o weithredu y cytunwyd arni
  14. cynorthwyo unigolion i benderfynu drostynt eu hunain pa opsiynau fyddai’n eu helpu nhw orau
  15. gweithio gydag unigolion i asesu eu cynnydd wrth reoli eu profiadau, gan ddefnyddio dulliau priodol ac mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion
  16. gydag unigolion, trafod a yw’r cymorth a’r gwasanaethau eraill a ddewisont yn gweithio
  17. cynorthwyo unigolion i benderfynu a ydynt am addasu’r cymorth maen nhw’n ei gael neu roi’r gorau iddo
  18. cynnal cyfrinachedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  19. cynnal cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr amrywiaeth o asiantaethau a gwasanaethau y gallwch weithio gyda nhw neu atgyfeirio eraill atynt
  4. gofynion sefydliadol yn gysylltiedig â chaniatáu i bobl eraill fod yn bresennol mewn trafodaethau gydag unigolion, a’r buddion a’r anfanteision y gall presenoldeb pobl eraill eu creu
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  6. mathau o gyfathrebu dieiriau, gan gynnwys iaith y corff
  7. arddulliau a dewisiadau cyfathrebu gwahanol mewn diwylliannau gwahanol
  8. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion unigolion
  9. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  10. effaith troseddu ar unigolion
  11. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
  12. sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  13. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  14. sut i gymhwyso dull dan arweiniad anghenion, seiliedig ar gryfderau, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
  15. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  16. sut mae unigolion yn ymateb i’w profiad ac yn dod drosto
  17. natur erledigaeth eilaidd a sut gall hyn gael ei atal
  18. ut i asesu anghenion a phennu’r math o wasanaethau sy’n angenrheidiol i fodloni’r anghenion
  19. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar sut brofiad caiff unigolyn o wasanaethau
  20. y ffyrdd y gallai stereoteipio a gwahaniaethu effeithio ar yr asesiad o anghenion unigolyn, a sut mae gochel rhag hyn
  21. pam mae’n bwysig cynnwys pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant mewn gwaith gyda phlant a’u profiadau
  22. sut i wneud cais am iawndal ar gyfer anafiadau troseddol
  23. sut i gael at gyngor cyfreithiol
  24. yr opsiynau ar gyfer cefnogi unigolion a’r prosesau rhesymu sy’n cael eu defnyddio wrth bennu’r opsiynau mwyaf priodol i’r unigolion dan sylw
  25. sut i gynnal cofnodon clir, cywir a ffeithiol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

4

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SfJBE3

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Swyddogion Cymorth Prawf, Swyddogion Prawf

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Dioddefwr; goroeswr; tyst; unigolyn; VSW; cymorth; trawsnewid adsefydlu