Cyflwyno ymyriadau gyda’r nod o gynorthwyo unigolion sydd mewn perygl o niwed

URN: SFJBE102
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth ac ymyriadau wedi’u cynllunio i unigolion y nodir bod perygl o niwed iddynt gan bobl eraill.

Bydd yr ymyrraeth wedi cael ei datblygu i fynd i’r afael ag anghenion unigolion ac i reoli’r ffactorau risg ac amddiffynnol a nodwyd gan broses asesu briodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys asesiadau, ynghylch yr unigolyn ac unrhyw ddibynyddion, gan adolygu’r ffactorau risg ac anghenion canfyddedig unigolion
  2. nodi camau gweithredu sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â’r ffactorau risg a gwella’r ffactorau amddiffynnol a fydd yn lleihau risg niwed i unigolion
  3. nodi a gweithio gyda phobl eraill berthnasol, fel y bo’n briodol, i sicrhau llwyddiant ymyriadau, i ddatblygu a chytuno ar gyfrifoldebau a chamau gweithredu
  4. cael gwybodaeth berthnasol am y cymorth sydd i’w ddarparu i unigolion a sut mae’n canolbwyntio ar y ffactorau risg a nodwyd ar eu cyfer
  5. cadarnhau bod pawb yn deall y gwahanol rolau a chyfrifoldebau, a fformat a nodau’r cymorth sy’n cael ei ddarparu
  6. gwirio bod y bobl sy’n gyfrifol am gyflwyno ymyriadau yn deall yr holl gamau gweithredu ac amserlenni, a’u bod wedi cytuno iddynt
  7. darparu gwybodaeth berthnasol i unigolion am yr ymyrraeth
  8. cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i unigolion a gwirio’u bod yn deall, gan eu trin gydag urddas a pharch
  9. cyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd y tu hwnt i faes eich cyfrifoldeb at bobl briodol eraill
  10. nodi a chytuno ar y meini prawf a ddefnyddir i werthuso llwyddiant y cymorth, a’r dulliau ar gyfer monitro’r rhain
  11. gwirio bod yr ymyriadau’n cael eu rhoi ar waith yn unol â’r fformat a’r amserlen y cytunwyd arnynt
  12. trafod a chytuno ar ymyriadau gyda’r unigolyn
  13. asesu cynnydd yr ymyrraeth a’i drafod gydag unigolion
  14. adrodd ar addasrwydd yr ymyrraeth wrth fynd i’r afael ag anghenion unigolion gan nodi unrhyw bryderon ac argymhellion rhesymedig am weithredu
  15. mynd i’r afael ag unrhyw broblemau neu newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar ddiogelwch, iechyd a lles unigolion
  16. annog adborth gan unigolion am yr ymyrraeth ac ymateb yn briodol
  17. darparu cyngor cyfredol, gan gynnwys manylion cyswllt brys, lle bo angen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  18. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. rolau asiantaethau eraill wrth ddarparu cymorth ac ymyriadau i unigolion
  4. gweithdrefnau rheoli achosion sy’n cael eu defnyddio gan eich sefydliad a’ch cyfrifoldebau o fewn y rhain
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  6. dulliau o asesu risg niwed i unigolion
  7. yr ystod o ymyriadau sydd ar gael a sut i amddiffyn unigolion rhag niwed
  8. y wybodaeth sy’n angenrheidiol wrth wneud asesiad o unigolion
  9. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
  10. sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  11. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  12. sut i gymhwyso dull dan arweiniad anghenion, seiliedig ar gryfderau, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
  13. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  14. ffynonellau gwybodaeth perthnasol am unigolion a sut i gael at y rhain
  15. ffactorau sy’n effeithio ar freguster unigolion sydd mewn perygl o niwed
  16. mathau o freguster, neu lefelau niwed, y dylid eu hystyried wrth asesu risg a’u dangosyddion
  17. dangosyddion cyffredin a all awgrymu problemau iechyd meddwl a’r camau i’w cymryd
  18. asiantaethau y gellid atgyfeirio unigolion iddynt am gymorth â’u hiechyd meddwl, a sut i’w hatgyfeirio
  19. yr amgylchiadau pan ystyrir fod risg i unigolion, sydd angen cymorth arbenigol, a sut i symud ymyrraeth o’r fath yn ei blaen
  20. yr ystod o arddulliau a thechnegau cyfathrebu sydd ar gael, gan gynnwys pryd a sut i’w haddasu
  21. pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau, a sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
  22. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion a dulliau o gyflawni hyn
  23. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  24. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun, a’u heffaith ar eich gallu i herio agweddau ac ymddygiad sy’n gwahaniaethu neu a allai fod yn niweidiol
  25. cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl a’r amgylchiadau pan mae angen mynd yn groes i ddymuniadau unigolion gan sicrhau eu bod yn deall beth sy’n digwydd a pham
  26. sut i gynnal cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SfJ BE102

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Cyflwyno, ymyriadau, cynorthwyo, dioddefwyr, mewn perygl, niwed difrifol