Asesu risg niwed i unigolion
URN: SFJBE101
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
26 Mai 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu risg niwed i unigolion. Mae’n ymwneud â chynnwys yr unigolyn, lle bynnag y bo’n bosibl, yn yr asesiad ac wrth gytuno ar yr anghenion a’r gofynion cymorth y mae angen mynd i’r afael â nhw.
Yna, bydd y deilliannau canlyniadol yn llywio datblygu a gweithredu cynlluniau ymyrryd priodol, gyda safonau galwedigaethol cenedlaethol ar wahân, ond cysylltiedig, yn mynd i’r afael â’r gweithgarwch hwnnw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldebau i unigolion
- trefnu bod trafodaethau’n cael eu cynnal gydag unigolion mewn amgylchedd priodol a diogel
- cadarnhau polisi eich sefydliad ar gyfrinachedd, gan gynnwys ar bwy y gall fod angen gwybodaeth, a’r amgylchiadau pryd y gellir datgelu gwybodaeth
- cadarnhau bod yr unigolyn yn hapus i fwrw ymlaen
- cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion ac amgylchiadau unigolion
- caniatáu i unigolion symud ymlaen yn ôl eu cyflymder eu hunain, gan eu trin gydag urddas a pharch, a gwrando a gwirio’u bod yn deall
- cynnal asesiad risg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cwblhau’r asesiad priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gwirio bod eich asesiad risg yn cael ei osod yng nghyd-destun amgylchiadau’r unigolyn, a bod modd ei amddiffyn
- defnyddio’ch crebwyll proffesiynol i asesu arwyddocâd sefyllfa gyffredinol yr unigolyn er mwy pennu lefel y risg a nodi meysydd â blaenoriaeth ar gyfer ymyriadau a chymorth
- nodi unrhyw amgylchiadau pryd y gallai unigolion neu eu dibynyddion fod yn fregus
- cynnwys unigolion yn yr asesiad risg, gan esbonio’r broses a ddefnyddir a’r sail resymegol ar gyfer y deilliannau canlyniadol
- rhoi esboniad i unigolion o effaith y ffactorau risg ac amddiffynnol a nodwyd
- esbonio’r opsiynau sydd ar gael i unigolion a chytuno ar yr opsiynau sy’n well ganddynt a chamau gweithredu cysylltiedig
- pennu dulliau ymdopi’r unigolion eu hunain a chytuno ar ddulliau a allai gael eu datblygu
- defnyddio gweithdrefnau cytunedig a phrotocolau priodol ar gyfer cydweithio amlasiantaethol
- gwirio bod gweithdrefnau perthnasol wedi’u cytuno arnynt gydag unigolion a’u bod ar waith i roi cymorth parhaus i’r unigolion, mor aml ag y bo’n briodol i lefel y risg a nodwyd
- rhybuddio pobl berthnasol lle y byddwch yn amlygu pryderon am y risg niwed i unigolion, gan gynnwys dibynyddion, lle bo hynny’n berthnasol
- gwirio bod modd cyfiawnhau ac amddiffyn eich dadansoddiad, a bod sail resymegol glir dros eich casgliadau, argymhellion cysylltiedig a chynlluniau dilynol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- darparu eich adroddiad i’r person perthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cynnal cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- rôl asiantaethau eraill wrth ddarparu cymorth ac ymyriadau i unigolion
- cyfyngiadau eich awdurdod a’ch cyfrifoldeb, a’r camau i’w cymryd os eir y tu hwnt iddynt
- gweithdrefnau rheoli achosion sy’n cael eu defnyddio gan eich sefydliad a’ch cyfrifoldebau o fewn y rhain
- offerynnau neu brosesau asesu risg perthnasol a sut i ymgymryd â’r rhain
- y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn gwneud asesiad o unigolion, yn briodol i fynd i’r afael â’r risgiau iddynt
- dulliau o asesu risg niwed i unigolion
- yr ystod o ymyriadau sydd ar gael a sut i amddiffyn unigolion rhag niwed
- dulliau o wirio a chadarnhau’r wybodaeth sy’n angenrheidiol
- ffactorau sy’n effeithio ar freguster unigolion
- sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac adroddiadau ail-law
- dangosyddion cyffredin fod gan unigolion broblemau posibl yn gysylltiedig â’u hiechyd meddwl, sy’n effeithio’n niweidiol ar eu hymddygiad, a’r camau priodol i’w cymryd pan welwch y rhain
- asiantaethau y gellid cyfeirio unigolion atynt am help a chymorth â’u hiechyd meddwl, a’r gweithdrefnau ar gyfer symud y rhain yn eu blaen
- yr amgylchiadau sy’n gofyn am asesiadau ychwanegol a sut i drefnu’r rhain
- yr amgylchiadau pan ystyrir fod risg i unigolion, bod angen cymorth penodol arnynt, cynllun rheoli risg cysylltiedig, a sut i symud hyn yn ei flaen
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes ymarfer
- sut i gymhwyso dull dan arweiniad anghenion, seiliedig ar gryfderau, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
- mathau o freguster neu lefelau niwed y dylid eu hystyried wrth asesu risg a’u dangosyddion
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- yr ystod o arddulliau a thechnegau cyfathrebu sydd ar gael, gan gynnwys pryd a sut i’w haddasu
- pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau, a sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun, a’u heffaith ar eich gallu i herio agweddau ac ymddygiad sy’n gwahaniaethu neu a allai fod yn niweidiol
- cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl
- yr amgylchiadau pan mae angen mynd yn groes i ddymuniadau unigolion a phwysigrwydd sicrhau eu bod yn deall beth sy’n digwydd a pham
- sut i gynnal cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
26 Mai 2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Justice
URN gwreiddiol
SfJ BE101
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)
Cod SOC
3229
Geiriau Allweddol
Asesu, risg, difrifol, niwed, unigolion