Sicrhau bod eich camau gweithredu eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch
URN: SFJAF1
Sectorau Busnes (Suites): Safonau cyffredin ar draws y sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
29 Meh 2006
Trosolwg
Mae'r uned hon yn ymwneud â gofynion sylfaenol Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Mae bodloni'r gofynion hyn yn agwedd hanfodol ar bob swydd yn y sector cyfiawnder.
Mae llawer o ddeddfwriaeth a rheoliadau yn gysylltiedig â iechyd a diogelwch yn y gwaith. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 [ac yng Ngogledd Iwerddon, Gorchymyn Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (Gogledd Iwerddon) 1978] yw'r prif ddarnau o ddeddfwriaeth y mae bron pob rheoliad arall sy'n ymwneud â iechyd a diogelwch yn cael eu llunio oddi tanynt. Yn ôl y Ddeddf:
- rhaid i gyflogwyr ddiogelu, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles yn y gwaith yr holl bobl sy'n gweithio iddyn nhw a 'phersonau eraill'.
- Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddarparu a chynnal peiriannau a systemau gwaith diogel, ac mae'n cwmpasu'r holl beiriannau, cyfarpar a sylweddau a ddefnyddir.
Mae dyletswydd ar bobl yn y gwaith (p'un a ydynt yn cael eu talu neu beidio, ac yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan amser) o dan y Ddeddf i gymryd gofal rhesymol i osgoi niwed iddynt eu hunain neu i eraill trwy eu harferion gwaith, ac i gydweithio â chyflogwyr ac eraill i fodloni gofynion statudol. Mae'r Ddeddf hefyd yn gofyn bod gweithwyr yn ymatal rhag ymyrryd ag unrhyw beth neu gamddefnyddio unrhyw beth a ddarparwyd i ddiogelu eu hiechyd, eu diogelwch neu eu lles, gan gydymffurfio â'r Ddeddf.
Mae llu o reoliadau a chodau ymarfer iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i bobl yn y gwaith. Mae rheoliadau sy'n delio gyda gweithgareddau penodol, fel defnyddio sgriniau a bysellfyrddau (Rheoliadau Cyfarpar Arddangos 1992) neu weithio gyda deunyddiau peryglus (Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Peryglu Iechyd 1994 - Rheoliadau COSHH), yn ogystal â llawer o rai eraill. Ceir gofynion penodol sy'n cwmpasu'r gweithle ei hun yn Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992.
Mae dwy elfen**
1 Nodi'r peryglon a gwerthuso'r risgiau yn y gweithle
2 Lleihau'r risgiau i iechyd a diogelwch yn y gweithle
Mae'r uned hon wedi'i llunio i fod yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi'r peryglon a gwerthuso'r risgiau yn y gweithle**
1. enwi'n gywir a lleoli'r bobl sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle
2. nodi pa bolisïau yn y gweithle sy'n berthnasol i'w harferion
3. nodi'r arferion gwaith hynny mewn unrhyw ran o rôl eich swydd a allai eich niweidio chi neu bobl eraill
4. nodi'r agweddau hynny ar y gweithle a allai eich niweidio chi neu bobl eraill
5. gwerthuso pa rai o blith yr arferion gwaith a allai fod yn niweidiol ac arferion yn y gweithle a allai fod yn niweidiol sydd â'r risg uchaf i chi neu i eraill
6. adrodd am y peryglon hynny sy'n cyflwyno risg uchel i'r bobl sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle
7. delio gyda pheryglon risg isel yn unol â pholisïau'r gweithle a gofynion cyfreithiol
Lleihau'r risgiau i iechyd a diogelwch yn y gweithle
8. cyflawni arferion gwaith yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
9. dilyn y **polisïau diweddaraf yn y gweithle ar gyfer rôl eich swydd
10. unioni'r risgiau iechyd a diogelwch sydd o fewn eich gallu a chwmpas cyfrifoldebau eich swydd
11. trosglwyddo unrhyw awgrymiadau ar gyfer lleihau'r risgiau iechyd a diogelwch o fewn rôl eich swydd i'r bobl gyfrifol
12. ymddwyn yn y gweithle mewn modd nad yw'n peryglu eich iechyd a'ch diogelwch eich hun na iechyd a diogelwch pobl eraill
13. dilyn polisïau'r gweithle a chyfarwyddiadau'r cyflenwyr neu'r gweithgynhyrchwyr ar gyfer defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
14. adrodd am unrhyw wahaniaethau rhwng polisïau'r gweithle a chyfarwyddiadau'r cyflenwyr neu'r gweithgynhyrchwyr, fel sy'n briodol
15. cyflwyno eich hun yn bersonol yn y gwaith mewn modd sy'n
15.1 sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill
15.2 cyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol, ac
15.3 yn unol â pholisïau'r gweithle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Nodi'r peryglon a gwerthuso'r risgiau yn y gweithle**
1. eich dyletswyddau cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
2. eich dyletswyddau o ran iechyd a diogelwch, fel y'u diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n cwmpasu rôl eich swydd
3. pa beryglon all fodoli yn eich gweithle
4. y risgiau iechyd a diogelwch penodol a allai fod yn bresennol yn rôl eich swydd eich hun, a'r rhagofalon mae'n rhaid i chi eu cyflawni
5. pwysigrwydd parhau'n effro i bresenoldeb peryglon yn y gweithle cyfan
6. cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch yn eich disgrifiad swydd
7. y bobl gyfrifol y mae'n rhaid rhoi gwybod iddynt am faterion iechyd a diogelwch
8. y polisïau penodol yn y gweithle sy'n cwmpasu rôl eich swydd
9. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gweithgynhyrchwyr ar gyfer defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
10. arferion gwaith diogel ar gyfer rôl eich swydd eich hun
11. pwysigrwydd cyflwyniad personol wrth gynnal iechyd a diogelwch yn y gweithle
12. pwysigrwydd ymddygiad personol wrth gynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a iechyd a diogelwch pobl eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1 Risgiau sy'n deillio o'r canlynol
1.1 defnyddio a chynnal a chadw peiriannau neu gyfarpar
1.2 defnyddio deunyddiau neu sylweddau
1.3 arferion gwaith nad ydynt yn cydymffurfio â'r polisïau a nodwyd
1.4 ymddygiad anniogel
1.5 toriadau a gollyngiadau damweiniol
1.6 ffactorau amgylcheddol
2 polisïau'r gweithle sy'n cwmpasu**
2.1 defnyddio dulliau a chyfarpar gweithio diogel
2.2 defnydd diogel o sylweddau peryglus
2.3 smygu, bwyta, yfed a chyffuriau
2.4 beth i'w wneud os bydd argyfwng
2.5 cyflwyniad personol.
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Lluniwyd yr uned hon i ddarparu sylfaen ar gyfer yr holl unedau eraill, gan fod iechyd a diogelwch yn y gwaith yn hanfodol i bob gweithiwr.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Meh 2011
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
ENTO
URN gwreiddiol
Uned E
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cymryd cyfrifoldeb; polisïau'r gweithle; osgoi cymryd risgiau diangen