Cynnal a datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd eich hun

URN: SFJAE1
Sectorau Busnes (Suites): Safonau cyffredin ar draws y sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar bob unigolyn yn y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel i ddiweddaru eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd yn rheolaidd a'u datblygu er mwyn ymateb i ofynion eu cyflogaeth. Mae'r safon yn cydnabod bod gan bawb eu hanghenion dysgu a datblygu eu hunain, yn ogystal â diddordebau dysgu a datblygu ehangach a allai fod yn ymwneud yn uniongyrchol â'u swydd neu eu gyrfa, ond a allai ymwneud hefyd â datblygiad personol ehangach.  Mae angen i'r ymrwymiad hwn gan unigolion dderbyn cyfatebiaeth ar ffurf cyflogwyr yn gosod gwerth ar ddysgu a datblygiad staff.

Mae hon yn agwedd hanfodol ar bob swydd yn y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel. Mae'n ymwneud â'r ymrwymiad i ddysgu gydol oes i bawb yn y sector, a'r gwerth y gall dysgu ei roi i waith y sector. 

Grŵp Targed**
Mae'r safon wedi'i llunio i fod yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. ceisio adborth gan eraill i'ch helpu i asesu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd: 
   1.1 yn anffurfiol 
   1.2 yn ffurfiol yn ystod arfarniadau/goruchwyliaeth
2. derbyn adborth mewn modd cadarnhaol
3. gweithredu ar sail adborth i ddatblygu a gwella eich ymarfer
4. adolygu a gwerthuso eich llwyddiant wrth gyflawni eich gwaith eich hun 
5. nodi a chofnodi, yn unol ag amcanion sefydliadol:
   5.1 eich anghenion a'ch diddordebau datblygu 
   5.2 y blaenoriaethau o ran eich dysgu a'ch datblygiad 
   5.3 dulliau dysgu a datblygu posibl ar gyfer yr anghenion a'r diddordebau hynny
   5.4 ble mae angen help arnoch chi i gefnogi eich dysgu a'ch datblygiad
  5.5 eich dysgu a'ch datblygiad 
6. cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygiad eich hun 
7. dadansoddi a myfyrio ar yr hyn sy'n ofynnol i sicrhau ymarfer cymwys effeithiol a diogel 
8. gwerthuso'r hyn rydych wedi ei ddysgu a nodi sut gallech ddefnyddio eich dysgu yn y dyfodol 
9. cymhwyso eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd er mwyn gwella eich gwaith
10. cadw cofnodion o'ch dysgu a'ch datblygiad/DPP yn unol â gofynion mewnol neu allanol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich rôl, eich cyfrifoldeb a'ch amcanion wrth gyfrannu at gyflawni amcanion a thargedau sefydliadol
2. pam mae cynnal a datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd yn bwysig i chi yn eich rôl ac i chi fel unigolyn ac yn eich sefydliad
3. gwerth diddordebau dysgu a datblygu
4. eich anghenion dysgu a datblygu eich hun, a sut bydd y rhain yn newid dros amser
5. diben arfarniadau/goruchwyliaeth, a sut mae'r rhain yn cyfrannu at eich datblygiad fel unigolyn 
6. pam mae o gymorth derbyn barn pobl eraill ynghylch eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd
7. y dulliau y gallwch eu defnyddio i adolygu eich llwyddiant wrth eich gwaith
8. pam mae'n bwysig meddwl am eich rôl a sut bydd y sefydliad rydych yn gweithio ynddo yn newid a'r berthynas rhwng hynny a dysgu a datblygu 
9. y dulliau gwahanol o gasglu gwybodaeth am newidiadau yn y gwaith
10. y dulliau a'r cyfleoedd dysgu a datblygu sydd wedi eich helpu i ddysgu yn y gorffennol 
11. ble gallwch chi fynd i gael cefnogaeth ar gyfer hunan-asesu, cynllunio eich dysgu ac i'ch helpu i ddysgu, a manteision y gwahanol fathau o gefnogaeth
12. pam mae angen i chi dderbyn cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygiad eich hun 
13. sut gallwch chi werthuso eich dysgu, ei gymhwyso a'i rannu, lle bo hynny'n briodol, yn y gwaith
14. y rhesymau dros gadw cofnodion ynghylch dysgu a datblygiad 


Cwmpas/ystod

Yn P4, gallai 'adolygu eich llwyddiant wrth wneud eich gwaith eich hun' gyfeirio at: lefel yr wybodaeth a'r sgiliau sydd gennych a sut rydych yn eu cymhwyso wrth eich gwaith; eich cymhwysedd cyffredinol i ymgymryd â'ch swydd; eich gwerthoedd, eich diddordebau, eich blaenoriaethau a'ch profiadau bywyd, a sut mae'r rhain yn effeithio ar eich gwaith. 

Yn P5, gallai 'anghenion datblygu a diddordebau' gyfeirio at: 

  • eich swydd gyfredol 
  • Cynllunio gyrfa 
  • symud i'r ochr yn eich gyrfa
  • diddordebau a nodau ehangach
  • cynnal diddordeb a symbyliad. 

Yn P5, gallai 'lle bo angen help arnoch i gynnal eich dysgu a'ch datblygiad' gyfeirio at: help i adolygu eich anghenion a/neu eich buddiannau, i nodi'r ffyrdd gorau o ddysgu i chi er mwyn cyflawni'r anghenion a'r diddordebau dysgu hynny, gan nodi'r cyfleoedd sydd ar gael ac ati. 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Lluniwyd y safon hon i fod yn sylfaen ar gyfer pob safon arall, gan fod cynnal a datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd eich hun yn hanfodol i gyflawni amcanion gwaith. ​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJAE1

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwybodaeth, sgiliau, cymhwysedd, arfarniadau, goruchwyliaeth, adborth, gwella, datblygu, dysgu