Cyfrannu at ansawdd gwaith tîm
URN: SFJAC1
Sectorau Busnes (Suites): Safonau cyffredin ar draws y sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
27 Ebr 2011
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r rôl sydd gan unigolyn wrth cyfrannu at ansawdd gwaith tîm. Mae hon yn agwedd hanfodol ar bob swydd yn y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel.
Mae'r safon yn cwmpasu cyfraniad yr unigolyn at waith parhaus y tîm a hefyd ei ddatblygiad, fel bod modd iddo wella'i effeithiolrwydd ac ymateb i newidiadau o ran deddfwriaeth, polisïau ac arfer.
Mae dau is-bennawd:
AC1.1 Cyfrannu at waith tîm effeithiol
AC1.2 Cyfrannu at ddatblygu gwaith tîm
Grŵp Targed**
Mae'r safon wedi'i llunio i fod yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
AC1.1 Cyfrannu at waith tîm effeithiol *
1. gweithredu'n unol â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol a dulliau eraill o ymdrin ag ansawdd
2. gweithio
2.1 o fewn eich cymhwysedd eich hun
2.2 o fewn lefelau o gyfrifoldeb ac atebolrwydd yn y tîm gwaith a'r sefydliad
2.3 fel y cytunwyd gyda'r tîm
2.4 mewn modd sy'n hybu cydraddoldeb ac yn gosod gwerth ar amrywiaeth pawb yn y tîm gwaith
3. trefnu eich gwaith eich hun er mwyn ymateb i flaenoriaethau gwaith
4. defnyddio a chynnal adnoddau'n effeithiol ac effeithlon
5. gweithredu mewn modd sy'n caniatáu i aelodau eraill y tîm wneud eu gwaith yn effeithiol, trwy'r canlynol:
5.1 cyfathrebu'n effeithiol
5.2 cynnal perthnasoedd gwaith da
5.3 cynnig cefnogaeth
5.4 gweithredu'n adeiladol pan fydd materion yn codi yn y tîm
5.5 parchu amrywiaeth aelodau'r tîm a'r gwerth y gall hynny ei ychwanegu
6. monitro ansawdd y gwaith a gwneud eraill yn ymwybodol o faterion ansawdd
7. gweithio gydag aelodau eraill y tîm i werthuso ac adolygu gwaith y tîm
AC1.2 Cyfrannu at ddatblygu gwaith tîm
*
8. gwneud awgrymiadau adeiladol ynghylch sut gellir gwella eich gwaith eich hun a gwaith y tîm
9. tynnu sylw'r bobl berthnasol at unrhyw faterion o ran polisïau a/neu weithdrefnau sy'n effeithio ar effeithiolrwydd gwasanaethau a gwaith tîm
10. trafod a chytuno gyda'r tîm gwaith ar unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud a sut y gwneir hynny, gan gynnwys:
10.1newidiadau i'ch gwaith eich hun a/neu
10.2newidiadau i waith y tîm
11. gwneud newidiadau cytunedig i'ch gwaith eich hun mewn modd adeiladol ac o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt
12. chwilio am gefnogaeth pan fyddwch chi'n ansicr sut mae newid eich ymarfer eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i waith eich tîm, diben cyffredinol eich gwaith a'r gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig
2. natur a therfynau eich swydd eich hun a'i pherthnas â gwaith eraill yn y tîm a'r sefydliad ehangach
3. eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd eich hun a'u terfynau
4. y cyfraniadau mae eraill yn eu gwneud i waith cyffredinol y tîm a sut mae gosod gwerth ar hynny a'i barchu
5. sut mae trefnu eich gwaith eich hun er mwyn i chi fedru gwneud eich gwaith eich hun yn effeithiol
6. sut mae defnyddio'r adnoddau yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt yn effeithlon ac yn effeithiol
7. y rhesymau pam mae defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau yn bwysig er mwyn darparu gwasanaethau mewn modd effeithiol
8. y gwahanol ffyrdd y gallwch chi helpu aelodau eraill o'r tîm i weithio'n effeithiol a gwneud newidiadau i'w hymarfer, a pham gallai gwahanol ddulliau fod yn briodol ar wahanol adegau a chyda gwahanol bobl
9. y materion o ran gwaith tîm ac ymarfer tîm sy'n debygol o effeithio ar ansawdd gwaith a sut mae ymdrin â hwy
10. y rhesymau pam rydych chi'n chwarae rhan weithredol yn y gwaith o werthuso ac adolygu gwaith y tîm, a chyfrannu at y newidiadau mae angen eu gwneud
11. sut mae'r ddeddfwriaeth, y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'ch gwaith yn newid, a sut bydd hynny'n effeithio ar eich gwaith chi
12. y rhesymau pam rydych chi'n chwarae rhan weithredol yn y gwaith o werthuso ac adolygu gwaith y tîm, a chyfrannu at y newidiadau mae angen eu gwneud
13. sut mae meddwl am y goblygiadau o ran ymarfer y tîm a'u nodi yn sgîl newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau a strwythurau sefydliadol
14. y rhesymau dros geisio cefnogaeth briodol pan fyddwch chi'n ansicr sut mae newid eich ymarfer
15. pam mae'n bwysig eich bod chi'n cynnig awgrymiadau ynghylch sut gellir gwella gwasanaethau, ac yn tynnu sylw pobl at faterion sy'n ymwneud â pholisïau, gweithdrefnau a strwythurau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Defnyddir y gair tîm mewn ystyr eang, ac mae'n cyfeirio at unrhyw grŵp rydych chi'n gweithio fel rhan ohono, gallai hynny olygu eich tîm eich hun neu unrhyw dîm arall rydych chi'n rhan ohono, e.e. tîm prosiect penodol.
Yn 1, gall ‘deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol’ gyfeirio at nifer o wahanol agweddau, megis:
rhoi gwybod am ddamweiniau / ddigwyddiadau
- cydraddoldeb ac amrywiaeth
- cyflogaeth
- aflonyddu a bwlio
- rheoli risg
Yn 4, bydd adnoddau'n cynnwys: eich amser eich hun ac eraill, cyfarpar, deunyddiau, cyfleusterau a chyllid.
Yn 6, gallai materion ansawdd ymwneud â'r canlynol: cwynion, bylchau, digwyddiadau, diffyg gwybodaeth a sgiliau, camgymeriadau a gwallau, cyfathrebu gwael, darparu adnoddau, gwaith tîm, llwyth gwaith (yr unigolyn a'r tîm).
Yn 7, gallai gwerthuso ac adolygu gwaith y tîm gynnwys: archwilio, arfarnu eich ymarfer eich hun ac ymarfer y tîm yng ngoleuni ymarferiadau ymchwil, meincnodi, arolygon - staff a defnyddwyr.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Lluniwyd y safon hon i ddarparu sylfaen ar gyfer yr holl unedau eraill, gan fod gwaith tîm effeithiol yn gydran hanfodol o'r holl gamau gweithredu yn y sector.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
27 Ebr 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJAC1
Galwedigaethau Perthnasol
Mae'r safon hon yn gyffredin i sawl galwedigaeth ar draws y sector Cyfiawnder a chymunedau mwy diogel
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Effeithiol, gwaith tîm, unigolyn, sefydliad, polisïau, gweithdrefnau, cyfraniad