Cyflawni dyletswyddau seremonïol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod unigolion sy'n cyflawni dyletswyddau seremonïol yn gwneud hynny'n ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r gweithdrefnau priodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. paratoi gwisgoedd swyddogol a chyfarpar yn unol â safonau'r sefydliad
4. gwisgo'n briodol ar gyfer yr achlysur, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5. cadarnhau eich bod yn y man cywir ar yr adeg gywir
6. cyflawni eich dyletswyddau'n unol â gofynion y dasg
7. cyflawni symudiadau dril yn gywir
8. bodloni gofynion moesgarwch sefydliadol sy'n briodol ar gyfer yr achlysur
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyflawni dyletswyddau seremonïol
2. y protocolau, y codau gwisg a'r safonau sy'n briodol ar gyfer yr achlysur
3. gofynion gweithdrefnau dril
4. sut mae cyflawni symudiadau dril
5. natur a diben y digwyddiad seremonïol
6. eich rôl chi yn y digwyddiad seremonïol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Dyletswyddau:
1.1 paredio
1.2 digwyddiadau seremonïol
2 Cyflawni dyletswyddau:
2.1 fel unigolyn
2.2 ar y cyd