Gweithredu a chynnal mân arfau ac arfau tîm
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod yr unigolion sy'n gweithredu ac yn cynnal mân arfau ac arfau tîm yn gwneud hynny'n ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r gweithdrefnau priodol.
Mae'r safon hon yn berthnasol dim ond i bersonél sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu ac unrhyw was cyhoeddus arall sydd wedi'i drwyddedu i ddefnyddio arfau tanio fel rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. paratoi arfau ac ategolion yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
4. defnyddio arfau ac ategolion yn unol ag egwyddorion cywirdeb anelu a gweithdrefnau sefydliadol
5. cynnal effeithiolrwydd gweithredol yr arf a'r ategolion ar ôl eu defnyddio
6. storio'r arf, yr ategolion a'r ffrwydron yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gweithredu a chynnal mân arfau ac arfau tîm
2. gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â defnyddio arfau a ffrwydron
3. diben a nodweddion yr arf
4. y mesurau diogelwch sy'n gysylltiedig â defnyddio arfau
5. sut mae delio gyda chamdanio a diffygion
6. gofynion o ran storio arfau a ffrwydron
7. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyfarpar diffygiol
8. sut mae cynnal a chadw arfau ac ategolion
9. sut mae gosod a defnyddio ategolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Tanio:
1.1 byw
1.2 blanciau a dril
2 Rhesymau am ataliadau:
2.1 ail-lwytho
2.2 camdanio