Cynllunio a chwilio ffordd ar hyd llwybr traws gwlad
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod unigolion yn gallu cynllunio a chwilio ffordd ar hyd llwybr yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r gweithdrefnau priodol. Mae hefyd yn sicrhau bod yr unigolion yn gwybod sut mae defnyddio cymhorthion a gwybodaeth chwilio ffordd i gynllunio a chwilio ffordd ar hyd llwybr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. nodi lleoliadau manwl gywir, gan ddefnyddio'r cyfarpar sydd ar gael
4. casglu gwybodaeth i gynllunio llwybr
5. cynnig llwybr sy'n cyflawni'r amcanion a nodwyd yn ddiogel
6. cadarnhau eich lleoliad manwl gywir yn ysbeidiol
7. chwilio ffordd i gyrchfannau gan ddefnyddio'r llwybrau gorau ar gyfer yr amodau ar y pryd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynllunio a chwilio ffordd ar hyd llwybr traws gwlad
2. manyleb eich amcanion
3. sut mae cymryd cyfeirbwyntiau
4. sut mae cynllunio ar gyfer trefniadau wrth gefn
5. sut mae amcangyfrif a mesur pellter, cyflymdra ac amser
6. sut mae dehongli mapiau, siartiau neu wybodaeth dopograffig arall
7. y côd cefn gwlad
8. defnyddiau a chyfyngiadau cymhorthion chwilio ffordd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Llwybrau:
1.1 o fanyleb a roddwyd
1.2 i gyrchfan a roddwyd
1.3 mewn gwahanol amodau tywydd ac ar wahanol adegau o'r dydd
2 Cymhorthion chwilio ffordd:
2.1 cwmpawd
2.2 map
2.3 siart
2.4 cymhorthion chwilio ffordd eraill