Cynnal gweithgareddau rheoli difrod ar fwrdd llong
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod unigolion yn gallu cyflawni gweithgareddau'n effeithiol i reoli difrod ar fwrdd llong, yn unol â'r canllawiau priodol. Mae hefyd yn sicrhau bod unigolion yn gwybod sut mae adnabod ac ymdrin â pheryglon eilaidd yng nghyswllt cynnal gweithgareddau rheoli difrod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. cadarnhau ac adnabod natur y difrod
4. cymryd camau i reoli'r difrod oddi mewn i derfynau eich rôl a'ch cyfrifoldebau
5. adnabod ac ymdrin â pheryglon eilaidd
6. diogelu integriti adrannau
7. adrodd eich canfyddiadau wrth y person priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal gweithgareddau rheoli difrod
2. y mathau o ddifrod a all ddigwydd, a'r camau i'w cymryd i'w rheoli
3. sut mae dethol a defnyddio cyfarpar yn gywir
4. beth yw'r diffiniad o berygl eilaidd
5. pwysigrwydd cyfathrebu clir
6. technegau rheoli difrod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Difrod a achosir gan y canlynol:
1.1 tân
1.2 dwr
2 Gwelededd:
2.1 da
2.2 gwael