Bodloni gofynion ffitrwydd corfforol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod unigolion yn bodloni'r safon ofynnol o ffitrwydd corfforol sy'n orfodol gan eu sefydliad er mwyn cyflawni eu rôl yn effeithlon. Mae hefyd yn sicrhau bod yr unigolion yn gwybod pa gamau y dylent eu cymryd i wella'u ffitrwydd corfforol neu i ddelio gydag anaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. asesu eich lefel gyfredol o ffitrwydd corfforol
4. monitro eich lefelau ffitrwydd corfforol
5. cyflawni'r gofynion ffitrwydd corfforol ar gyfer eich rôl
6. bodloni gofynion profion ffitrwydd corfforol gorfodol eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer bodloni gofynion ffitrwydd corfforol
2. gofynion sefydliadol a gofynion y rôl o ran ffitrwydd corfforol a iechyd a diogelwch
3. gan bwy mae ceisio cyngor ynghylch gwelliannau i'ch ffitrwydd corfforol a delio gydag anafiadau
4. sut mae gwella ffitrwydd corfforol
5. gwahanol elfennau ffitrwydd corfforol
6. sut mae arfer da o ran maeth, iechyd a hylendid yn effeithio ar eich ffitrwydd corfforol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Cynnal ffitrwydd:
1.1 fel unigolyn
1.2 ar y cyd
2 Ffitrwydd:
2.1 cardiofasgwlaidd
2.2 dygnwch
2.3 cryfder
2.4 symudedd