Defnyddio systemau cyfathrebu mewn cyd-destunau gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod unigolion yn defnyddio systemau cyfathrebu yn unol â'r gweithdrefnau priodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. defnyddio cyfarpar yn unol â'r protocolau priodol
4. defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer y sefyllfa
5. dilyn gweithdrefnau o ran mewnbynnu gwybodaeth a'i derbyn
6. cadw cyfathrebu yn ddiamwys ac yn unol â phrotocolau cyfathrebu
7. cadarnhau bod y neges wedi cael ei derbyn a'i deall
8. cyfathrebu yn unol â'r terfynau amser gofynnol
9. cadw at weithdrefnau cyfrinachedd a diogeledd sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer defnyddio systemau cyfathrebu
2. terfynau eich cyfrifoldeb
3. yr opsiynau sydd ar gael i chi o ran cyfathrebu gwybodaeth
4. defnyddiau a chyfyngiadau'r cyfarpar a'r system
5. pwysigrwydd cyfathrebu clir
6. lefel brys a blaenoriaeth eich cyfathrebu
7. wrth bwy y dylid rhoi gwybod am gyfarpar diffygiol
8. gofynion cynnal a chadw a diogeledd y cyfarpar
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Gwybodaeth:
1.1 derbyn
1.2 anfon
2 Cyfathrebu:
2.1 yn fewnol
2.2 yn allanol