Defnyddio a chynnal adnoddau ffisegol i gyflwyno gwasanaeth cyhoeddus
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod yr unigolion yn gallu gweithio mewn modd sy'n sicrhau'r defnydd a'r gynhaliaeth gorau posibl o adnoddau ffisegol, gan gynnwys tîm personol neu gyfarpar yn eu maes gwaith. Fe'i lluniwyd hefyd i sicrhau bod unigolion yn gwybod ac yn deall unrhyw ofynion penodol ynghylch defnyddio a chynnal yr adnoddau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. paratoi adnoddau ffisegol yn gywir ar gyfer eu defnyddio
4. cyflawni'r amcanion a bennwyd gan ddefnyddio adnoddau ffisegol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5. cynnal defnyddioldeb parhaus yr adnoddau ffisegol
6. cynnal adnoddau ffisegol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
7. storio adnoddau ffisegol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. rhoi cyfrif am adnoddau ffisegol bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion gweithdrefnau sefydliadol
2. côd gwisg eich sefydliad
3. yr ystod o adnoddau ffisegol sydd ar gael a'u defnyddiau
4. unrhyw ofynion arbennig o ran defnyddio, cynnal a storio mewn amgylcheddau penodol
5. sut mae adnabod cyfarpar nad yw'n addas i'w ddefnyddio
6. gweithdrefnau adrodd am ddiffygion
7. sut mae rhoi cyfrif am adnoddau ffisegol a'r camau i'w cymryd os bydd diffyg adnoddau ac adnoddau nad ydynt yn addas i'w defnyddio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Adnoddau:
1.1 personol
1.2 tîm
1.3 cyfarpar