Gweithio fel aelod o dîm i gyflwyno gwasanaeth cyhoeddus
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod yr unigolion yn gweithio'n effeithiol fel aelodau o dîm, ac yn cwblhau eu cyfrifoldebau er mwyn cyflawni amcanion y tîm. Fe'i lluniwyd hefyd i sicrhau bod unigolion yn deall hanfodion gwaith tîm er mwyn cyflawni eu hamcanion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. trin aelodau eraill o'r tîm gyda chwrteisi a pharch, yn unol â'r protocolau a dderbyniwyd
4. cynnig help i gydweithwyr oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
5. gofyn am help gan gydweithwyr oddi mewn i derfynau eu cyfrifoldeb
6. cyflawni eich cyfrifoldebau o fewn y tîm, yn unol â gofynion y dasg
7. gwella perfformiad unigolion a'r tîm trwy ddefnyddio adborth aelodau'r tîm
8. cyfathrebu ag aelodau'r tîm gan ddefnyddio'r dull mwyaf priodol
9. cyflawni amcanion y tîm yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion gweithdrefnau sefydliadol
2. amcanion y tîm
3. terfynau eich cyfrifoldeb a chyfrifoldeb aelodau'r tîm
4. dulliau a gweithdrefnau cyfathrebu o fewn y sefydliad ac o fewn eich tîm
5. pwysigrwydd cyfathrebu clir o fewn y tîm
6. pwysigrwydd gwrando ar bob barn a'u parchu
7. y problemau nodweddiadol sy'n gallu codi o fewn y tîm a sut mae eu goresgyn
8. sut, pryd ac wrth bwy y dylid adrodd am broblemau y tu hwnt i'ch lefel cyfrifoldeb
9. pwysigrwydd cadw at y terfynau amser y cytunwyd arnynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Cyfathrebu:
1.1 un i un
1.2 grŵp a thîm
1.3 un i grŵp
2 Gofynion tasg:
2.1 cyfeiriedig (lle mae rolau pendant wedi'u haseinio i unigolion)
2.2 cydweithredol (lle nad oes rolau unigol wedi'u haseinio)