Gweithio'n ddiogel mewn gwasanaeth cyhoeddus
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod unigolion yn gallu gweithio'n ddiogel. Ei diben yw bod unigolion yn gwybod ac yn deall sut mae defnyddio'r cyfarpar a'r nwyddau traul yn y gwaith mewn modd diogel, a delio gydag argyfyngau. Mae'n sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o bolisïau iechyd a diogelwch eu sefydliad a rhai ehangach, a safonau y dylent gydymffurfio â hwy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cyflawni arferion gwaith yn unol â gofynion cyfreithiol
3. ymddwyn a chyflwyno'ch hunan yn y gweithlu yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
4. defnyddio cyfarpar a nwyddau traul yn ddiogel, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
5. cymryd camau priodol i ddelio gydag argyfyngau a risgiau iechyd a diogelwch o fewn eich maes cyfrifoldeb
6. cadw eich ardal waith yn daclus, heb beryglon ynddi
7. defnyddio, cynnal a storio cyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. gwaredu neu ailgylchu gwastraff yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion gweithdrefnau sefydliadol
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle
3. beth i'w wneud os bydd argyfwng
4. eich cyfrifoldeb personol o ran iechyd a diogelwch
5. dulliau diogel o ddefnyddio cyfarpar a nwyddau traul
6. y camau i'w cymryd yng nghyswllt risgiau iechyd a diogelwch
7. perthnasedd Cyfarpar Amddiffynnol Personol (PPE)
8. pwysigrwydd gwneud pobl eraill yn ymwybodol o risgiau iechyd a diogelwch posibl
9. gweithdrefnau gwaredu gwastraff ac ailgylchu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill
2 Gweithio gyda chyfarpar a nwyddau traul