Cadw'ch cymhwysedd a'ch gwybodaeth yn gyfredol mewn gwasanaeth cyhoeddus
Trosolwg
Mae'r safon hon wedi'i llunio ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth bersonol, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i ymgymryd â'u rôl waith, ac yn eu cynnal. Fe'i lluniwyd hefyd i helpu pobl i gyflawni gweithgareddau datblygu yn unol ag amcanion personol a sefydliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. cynnal eich diogelwch personol eich hun a diogelwch pobl eraill bob amser
3. datblygu eich cymhwysedd a'ch gwybodaeth trwy gydymffurfio â'r rhaglen datblygiad proffesiynol
4. cynnal gweithgareddau datblygu sy'n gyson â bodloni anghenion proffesiynol, ac yn unol ag amcanion personol a sefydliadol
5. defnyddio adborth i wella'ch perfformiad
6. cadw'ch gwybodaeth dechnegol yn gyfredol yng nghyswllt rôl a swyddogaeth eich swydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion gweithdrefnau sefydliadol
2. eich amcanion proffesiynol personol a blaenoriaethau a disgwyliadau eich sefydliad
3. pwysigrwydd adborth ar eich perfformiad
4. gofynion eich rôl a'ch lefel o gyfrifoldeb
5. y cyfleoedd datblygu sydd ar gael a sut mae eu cyrchu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Dyma'r gwahanol amodau sy'n effeithio ar sut byddwch chi'n cymhwyso eich gwybodaeth, ac y mae rhaid i chi ddangos cymhwysedd ynddynt:
1 Datblygu:
1.1 gwybodaeth broffesiynol
1.2 cymhwysedd proffesiynol
2 Gofynion:
2.1 blaenoriaethau sefydliadol
2.2 amcanion proffesiynol tymor byr