Rheoli datblygiad personol a myfyrio ar ymarfer presennol

URN: SFJ HA203
Sectorau Busnes (Suites): Cyfiawnder Cymunedol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 29 Mai 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli eich datblygiad personol yn eich rôl a myfyrio ar ymarfer presennol.  Bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn gyfredol fel y gallwch arddangos a llwyddo i fodloni amcanion gwaith.

Bydd y safon yn caniatáu i ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer presennol a cheisio cyfleoedd i wella'u sylfaen wybodaeth a sgiliau. 

Yn y safon hon, gall gofynion eich sefydliad gyfeirio at god ymarfer ac ymddygiad, gwerthoedd craidd, datganiad cenhadaeth, polisïau a chanllawiau eich sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Trafod a chytuno ar amcanion datblygu personol gyda'ch rheolwr llinell a chytuno pa mor aml y cânt eu hadolygu
  2. Nodi a blaenoriaethu unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth neu'ch sgiliau i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gyfredol, yn unol ag arfer gorau presennol
  3. Trafod a chytuno ar gynllun datblygu gyda'ch rheolwr llinell i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau sy'n cael eu hamlygu mewn gwybodaeth neu sgiliau
  4. Ceisio cyfleoedd i wella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad presennol ymhellach, fel y'u hamlinellir yn eich cynllun datblygu
  5. Ymgymryd â gweithgareddau fel y cytunwyd arnynt yn y cynllun datblygu i sicrhau bod eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn gyfredol
  6. Adolygu a thrafod amcanion datblygu personol gyda'ch rheolwr llinell i sicrhau bod perfformiad ar y trywydd cywir
  7. Ceisio adborth gan bobl eraill ar berfformiad a myfyrio arno i sicrhau'r arfer gorau
  8. Cymryd camau ar sail yr adborth a gafwyd i fyfyrio ar eich effeithiolrwydd eich hun ac effeithiolrwydd y sefydliad, a'u gwella
  9. Gyda'ch rheolwr tîm, trafod ac adolygu sut byddwch chi'n gweithio gyda'ch tîm ac eraill i gefnogi dealltwriaeth gyffredin, annog cydweithrediad, adnabod amrywiaeth y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw a hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'ch sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a'r gweithgareddau a wneir
  2. Cylch gwaith a chyfyngiadau eich rôl a'ch cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich awdurdod
  3. Pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb personol am eich datblygiad eich hun
  4. Sut i nodi anghenion datblygu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau
  5. Sut i osod amcanion gwaith sy'n benodol ac yn fesuradwy
  6. Eich gwerthoedd, nodau eich gyrfa a'ch nodau personol
  7. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad yn gysylltiedig â datblygu ac adolygu personol
  8. Y cyfleoedd sydd ar gael i wella'ch sylfaen wybodaeth a sgiliau a ble i gael gafael arnynt
  9. Technegau ar gyfer hunanasesu i nodi cryfderau a gwendidau personol
  10. Ffyrdd o flaenoriaethu camau gweithredu sy'n datblygu eich effeithiolrwydd personol ac effeithiolrwydd eich sefydliad
  11. Beth ddylai cynllun datblygu effeithiol ei gynnwys
  12. Ble i ddod o hyd i gyfleoedd datblygu ac adnoddau sydd ar gael o fewn eich sefydliad
  13. Yr amrywiaeth o arddulliau dysgu gwahanol a'r arddulliau sy'n gweithio orau i chi
  14. Sut i fonitro ansawdd eich gwaith a'ch cynnydd yn erbyn gofynion a chynlluniau
  15. Sut i werthuso eich perfformiad yn erbyn gofynion eich rôl
  16. Sut i nodi a defnyddio ffynonellau da o adborth ar eich perfformiad
  17. Diben ymarfer myfyriol a gwerthuso a sut mae'n llywio'ch datblygiad
  18. Gofynion y sector a chanllawiau arfer da ar gyfer datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
  19. Sut i wneud cyfraniadau cadarnhaol at waith tîm effeithiol, gan gynnwys pwysigrwydd trin pobl eraill gyda pharch ac ystyriaeth a chyfrif am amrywiaeth a'i dderbyn 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Mai 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJ HA203

Galwedigaethau Perthnasol

Y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel

Cod SOC

7213

Geiriau Allweddol

Datblygiad Personol; dysgu, myfyrio; adborth; adolygu; rheoleiddiol; nodau; technegau; cynllun datblygu; gweithgareddau; arddulliau dysgu; adnoddau; cyfleoedd