Paratoi ar gyfer asesu plant a phobl ifanc a chynnal yr asesiad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i baratoi cynlluniau i asesu tebygolrwydd, natur ac enbydrwydd risg sy'n gysylltiedig ag ymddygiad plant a phobl ifanc.
Mae'n cynnwys coladu a chofnodi gwybodaeth i gynllunio a chynnal asesiad o blant a phobl ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu'r wybodaeth ddiweddaraf am blant a phobl ifanc, eu teulu neu ofalwyr gan gynnwys a ydynt wedi cymryd rhan mewn unrhyw asesiadau blaenorol
2. darparu gwybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar blant a phobl ifanc i baratoi ar gyfer cyfarfodydd
3.asesu'r risgiau neu'r anghenion a nodi unrhyw ffactorau amddiffynnol i chi'ch hun, plant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
4.esbonio mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion plant, pobl ifanc, eu teulu neu ofalwyr: eich rôl chi a rôl eich sefydliad yr wybodaeth a geisir a'r rhesymau dros ei cheisio
5.esbonio pa wybodaeth y mae angen ei rhannu gydag eraill gan gynnwys y rhesymau dros rannu a chyfyngiadau cyfrinachedd
6.nodi trwy arsylwi:
- natur yr amgylchedd cartref
- y perthnasoedd o fewn yr uned deuluol
- gweithrediad cymdeithasol a datblygiad plant, pobl ifanc a'u teulu neu ofalwr
- a oes angen asesiad arbenigol ar y plentyn neu'r person ifanc - neu wasanaethau ymyrryd neu driniaeth
7.gwerthuso effaith yr ardal a'r gymuned ar blant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr, gan gynnwys:
- ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol
- cryfder adnoddau cymunedol
- eu hofn o droseddu
8. cadarnhau hawliau teuluoedd a gofalwyr i wneud eu penderfyniadau eu hunain tra'n eu rhybuddio am benderfyniadau a gweithredoedd a allai effeithio ar eraill
9.nodi'r rhwydweithiau sydd gan blant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr yn y gymuned ehangach
10.trefnu unrhyw asesiad arbenigol, os nodwyd un
11.asesu parodrwydd ymatal y plentyn neu'r person ifanc gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar gryfderau
12.nodi camau i fynd i'r afael â ffactorau risg a gwella ffactorau amddiffynnol ar gyfer plant a phobl ifanc:
13.cadarnhau’r cyfle ar gyfer ymarfer adferol a chynnwys eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
14.paratoi cynlluniau ac ystyried safbwynt y plentyn neu'r person ifanc ar y broses newid
15.cynnwys plant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr ar adegau priodol yn ystod y broses gynllunio
16.adolygu a chytuno ar gynlluniau gyda phobl eraill briodol
17.darparu gwybodaeth am y cymorth a'r gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael yn unol â phrosesau unigol a sefydliadol
18.canfod a oes angen i gynlluniau alinio â sefydliadau neu wasanaethau eraill
19.cytuno â phobl eraill berthnasol y pwyntiau adolygu ar gyfer cynlluniau, a chyfrifoldebau am wneud i'r rhain ddigwydd
20.cytuno ar opsiynau priodol ac opsiynau a ffafrir gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion
21.darparu cymorth ac anogaeth briodol i deuluoedd neu ofalwyr yn eu perthynas â phlant a phobl ifanc
22.cadw cofnodion cywir a chyfredol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol
i’ch sefydliad ei hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud - yr offer asesu perthnasol a ddefnyddir wrth wneud asesiadau o blant a phobl ifanc
- strategaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer datblygu cynlluniau ac effaith y rhain ar eich cynlluniau eich hun
- yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer asesu plant a phobl ifanc, sy'n briodol i reoli eu risg o droseddu neu aildroseddu
- egwyddorion ymarfer sy'n cael ei arwain gan risg yn seiliedig ar ddisgrifiadau penodol o risg o ran ymddygiad ac amgylchiadau
- ffynonellau gwybodaeth berthnasol am blant a phobl ifanc a sut i gael gafael ar y rhain
- dulliau ar gyfer gwirio a chadarnhau'r wybodaeth a geir
- sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a arsylwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac achlust
- sut i ddylunio a datblygu cynlluniau a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc
- y cysyniadau allweddol sy'n sail i ymatal a'r broses newid
- ffactorau i'w hystyried wrth ddatblygu a chytuno ar gynlluniau
- gweithdrefnau a dulliau i asesu a rheoli ffactorau risg gan gynnwys defnyddio systemau asesu risg
- materion y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu gyda chynlluniau a strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r rhain
- yr ystod o opsiynau sydd ar gael ar gyfer goruchwylio a rheoli plant a phobl ifanc yn y gymuned
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac ymhle i ofyn am gyngor neu gymorth os oes angen
- natur a strwythur teuluoedd a gofalwyr ac amrywiaeth y rhain mewn gwahanol gyd-destunau a diwylliannau
- arwyddocâd y berthynas rhwng teuluoedd a gofalwyr a phlant a phobl ifanc, ac yn enwedig rhwng rhieni a phlant
- y dylanwadau cyffredinol, personol, cymdeithasol-ddiwylliannol, economaidd a seicolegol sy'n effeithio ar brofiad a phroses rhianta gan gynnwys sut mae profiadau plant a phobl ifanc o gael eu magu gan eu rhieni yn effeithio ar sut y byddant yn rhianta eu hunain
effaith yr amgylchedd cymdeithasol ehangach ar deuluoedd a gofalwyr a phlant a phobl ifanc, gan gynnwys:
- ardaloedd o amddifadedd materol, troseddu ac ofn troseddu
- tai gwael
- tlodi
20.anghenion aelodau o'r teulu gan gynnwys iechyd meddwl a defnyddio sylweddau, ac effaith yr anghenion hyn ar blant a phobl ifanc
21.natur ymddygiad y glasoed a ffyrdd o weld hyn yn gadarnhaol
22 rôl eich sefydliad a'i wasanaethau a sut maent yn ymwneud ag asiantaethau a gwasanaethau eraill yn y sector
23.sgiliau datblygu a rhianta gan gynnwys sgiliau corfforol, gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chyfathreb
- sut i nodi ac ymateb i bryderon diogelu
25.mathau o gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc
26.sut i gyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion
27.sut i greu amgylchedd sy'n tawelu meddyliau unigolion
28.effaith trawma ar blant a phobl ifanc a sut i sicrhau bod eich ymarfer yn ystyried hyn
29.sut i gymhwyso ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
- egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar gryfderau
31.egwyddorion cyfiawnder adferol
32.ymddygiadau sy'n dangos gwerth i eraill
33.ymhle i gael cyngor ar yr arfer diweddaraf ar niwrowahaniaeth
34.pam mae'n bwysig cytuno ar nodau, amcanion a dyddiadau cau
35.sut i reoli gelyniaeth ac ymddygiad ymosodol mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo perthynas waith dda ac yn gwarchod eich diogelwch personol
36.sut y gall diwylliant, rhywedd a chredoau effeithio ar agweddau ac ymddygiad a sut y gallant gael eu hystyried gan erail
37.pam dylech chi gadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer
38.sut i drefnu gwybodaeth mewn ffyrdd a fydd yn eich helpu i'w dadansoddi, a'r fformat sy'n ofynnol wrth roi gwybodaeth
39.polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion