Nodi unigolion sydd mewn perygl o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau eraill i nodi unigolion sydd mewn perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu droseddu.
Mae'r safon hon yn cyfeirio at ymddygiad problematig unigolion. Gall hyn fod yn wrthgymdeithasol, yn heriol neu’n droseddol, ac mae'n golygu bod yr unigolyn mewn perygl o droseddu/aildroseddu.
Pan ddefnyddir offeryn asesu, gall hwn fod ar bapur a/neu’n electronig.
Grŵp targed
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rhai sy'n gyfrifol am atal ymddygiad gwrthgymdeithasol / troseddu gan unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cysylltu ag ysgolion lleol, yr heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill i adnabod unigolion ag ymddygiad problematig
P2. nodi pam mae'r asiantaethau yn ystyried bod ymddygiad unigolion penodol yn broblemus
P3. casglu gwybodaeth berthnasol o ffynonellau eraill am yr unigolion a nodwyd
P4. asesu a yw ymddygiad yr unigolyn ac effaith yr ymddygiad yn broblem
P5. adolygu amgylchiadau i nodi ffactorau a allai fod yn cyfrannu at yr ymddygiad
P6. nodi unigolion lle mae risg cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu yn deilwng o asesiad pellach, a nodi cyfiawnhad rhesymedig
P7. argymell i'r person perthnasol yn eich sefydliad y camau i'w cymryd a chytuno ar y ffordd ymlaen
P8. diweddaru asiantaethau perthnasol ar gynnydd o fewn amserlenni gofynnol
P9. cadw cofnodion cywir a chyfredol o gynnydd
P10. defnyddio offer asesu safonedig yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. canllawiau cyfreithiol, rheoleiddiol a chysylltiedig sy'n mynd i'r afael ag atal ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu, gan gynnwys:
K1.1 eu cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol
K1.2 eu heffaith ar eich gwaith gydag asiantaethau eraill
K2. yr ysgolion, yr heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill sy'n gallu adnabod unigolion sydd mewn perygl o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu
K3. arwyddion o ymddygiad problemus
K4. gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer ymdrin ag achosion lle mae ymddygiad problematig yn cael ei nodi
K5. ffactorau a allai gyfrannu at ymddygiad problematig a phwysigrwydd mynd i'r afael â'r rhain yn effeithiol
K6. ffynonellau gwybodaeth tuag at archwilio amgylchiadau unigolion sy'n arddangos ymddygiad problematig
K7. pwysigrwydd gwahaniaethu rhwng ffaith a barn