Lleihau a delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu mewn ffordd nad yw'n ysgogi ymddygiad ymosodol neu ddifrïol. Mae hefyd yn ymdrin â thawelu sefyllfaoedd ac amddiffyn eich hun wrth ddelio â phobl sy’n mynd yn ymosodol ac yn ddifrïol, drwy ymbellhau eich hun oddi wrth y sefyllfa. Nid oes gofyniad yn yr uned hon i ddefnyddio grym corfforol. Er mwyn cyrraedd y safon hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- dangos parch at bobl, eu heiddo a’u hawliau;
- nodi a lleihau gweithredoedd neu eiriau a allai sbarduno ymddygiad difrïol ac ymosodol;
- cymryd camau adeiladol i dawelu sefyllfaoedd;
- gweithredu mewn ffordd sy’n tawelu ac yn gefnogol;
- gwahanu’n gorfforol, os oes angen, oddi wrth sefyllfa fygythiol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol
Mae'r safon hon yn berthnasol i staff gwasanaethau cymorth sy'n gweithio gydag unigolion a allai fod yn ymosodol neu'n ddifrïol. Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r aelodau staff hyn herio na cheisio addasu’r ymddygiad hwn na defnyddio grym corfforol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu â phobl mewn ffordd:
1.1 sy'n dangos parch tuag atynt, eu heiddo a’u hawliau
1.2 sy’n briodol iddynt
1.3 sy'n rhydd o wahaniaethu ac ymddygiad gormesol - esbonio’n glir beth yw eich rôl a beth mae’n rhaid i chi ei wneud
- esbonio’n glir yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw
- cynllunio sut y byddwch yn gadael sefyllfa os oes risg o ymddygiad difrïol ac ymosodol
- bod yn effro i weithredoedd neu eiriau a allai sbarduno ymddygiad difrïol ac ymosodol, a’u lleihau
- cydnabod pan fydd sefyllfa yn arwain at ymddygiad ymosodol a difrïol
- cymryd camau adeiladol i dawelu ymddygiad ymosodol a difrïol:
7.1 na fydd yn gwneud y sefyllfa’n waeth
7.2 sy’n gyson â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, a'ch cyfrifoldebau cyfreithiol - tynnu sylw'r bobl briodol at ganlyniadau tebygol eu hymddygiad ymosodol a difrïol
- gweithredu mewn ffordd sy’n debygol o annog tawelwch a sicrwydd
- gwahanu'n gorfforol o sefyllfaoedd a’u gadael, os oes angen gwneud hynny, mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o anaf i chi eich hun ac i eraill
- rhoi gwybod yn brydlon ac yn gywir am yr hyn sydd wedi digwydd a chwblhau’r holl gofnodion angenrheidiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam ei bod yn bwysig dangos parch tuag at bobl, eu heiddo a’u hawliau a sut mae gwneud hynny
- ymddygiad neu iaith a allai ddangos i bobl eraill eich bod yn gwahaniaethu neu’n ormesol
- iaith y corff a chydnabod gofod personol pobl eraill
- egwyddorion asesu risg o ran bod yn ymwybodol o bethau a allai sbarduno ymddygiad difrïol ac ymosodol
- pwysigrwydd cynllunio sut y byddwch yn gadael sefyllfa os oes risg gorfforol, a sut i wneud hynny
- y prif arwyddion y gallai sefyllfa arwain at ymddygiad ymosodol neu sarhaus, a sut i adnabod y rhain
- y mathau o ymddygiad adeiladol y gallwch eu defnyddio i dawelu sefyllfaoedd
- gweithdrefnau eich sefydliad o ran delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
- eich cyfrifoldebau cyfreithiol o ran delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
- beth yw’r goblygiadau os bydd rhywun yn mynd yn ymosodol neu’n sarhaus
- technegau gwahanu diogel
- yr adroddiadau y mae’n rhaid eu gwneud a’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw pan fydd rhywun yn mynd yn ymosodol neu’n sarhaus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol yn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Dimensiynau: Iechyd, Diogelwch a Diogeledd Craidd 3.