Gwirio presgripsiwn ar gyfer therapi gwrth-ganser
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio presgripsiynau ar gyfer unigolion yn erbyn protocol. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- coladu'r data perthnasol sy'n ymwneud â demograffeg cleifion a thriniaethau unigol
- gwirio mai'r trefniadau a bennwyd yw'r driniaeth a fwriadwyd, fel y'i dogfennwyd mewn cynllun triniaeth, yn y nodiadau clinigol neu yn y cofnod electronig
- gwirio rhyngweithio cyffuriau a'i gilydd, rhyngweithio cyffuriau a bwyd, rhyngweithio cyffuriau a pherlysiau ac alergeddau cleifion i gyffuriau
- adolygu tystiolaeth i gefnogi'r defnydd o'r trefniadau triniaeth
- sicrhau bod y trefniadau triniaeth wedi bod trwy brosesau cymeradwyo lleol, cymeradwyaeth lywodraethu glinigol ac ariannol, a/neu wedi'u cynnwys ar restr o drefniadau triniaeth a gymeradwyir yn lleol
- sicrhau bod y cais am bresgripsiwn wedi'i gwblhau, yn briodol a bod modd ei gyflawni gan ddilyn protocolau cytunedig, gan gynnwys cymeradwyo'r cyllid
- gwirio bod manylion a llofnod y rhagnodwr yn bresennol a chadarnhau bod y person dan sylw wedi'i awdurdodi i ragnodi therapi gwrth-ganser
- dehongli data a dewis methodoleg briodol, gan ddilyn y protocol, er mwyn cyfrifo'r dogn triniaeth
- sicrhau bod yr holl baramedrau clinigol perthnasol wedi digwydd cyn i'r driniaeth fedru mynd rhagddi
- gwirio bod yr holl gyfrifiadau dognau a'r cyfarwyddiadau gweinyddol yn dilyn y protocolau
- adnabod sefyllfaoedd lle mae angen i chi geisio cyngor/cefnogaeth o ffynonellau priodol ac ymateb yn briodol; yn arbennig, lle mae'r cymhlethdod yn fwy na'ch lefel bersonol o gymhwysedd neu lle mae rheswm i bryderu ynghylch addasrwydd yr unigolyn ar gyfer y driniaeth a ragnodwyd
- sicrhau bod meddyginiaeth ategol wedi cael ei rhagnodi'n briodol
- dogfennu a chofnodi canlyniad unrhyw faterion fferyllol, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- deall a chynghori ar bolisi lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun defnyddio asiant therapiwtig gwrth-ganser
- llofnodi a dyddio'r presgripsiwn, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth a phrotocolau sy'n gysylltiedig â therapi gwrth-ganser
2. patholeg a biocemeg perthnasol
3. egwyddorion therapi gwrth-ganser, gan gynnwys:
3.1 dosbarthiad a mecanwaith gweithrediad cyffuriau ar gyfer trin canser
3.2 gwahaniaethu rhwng cyffuriau o'r un dosbarth
3.3 addasu cyffuriau therapi gwrth-ganser gan asiantau nad ydynt yn rhai therapi gwrth-ganser
3.4 ffarmacocineteg a ffarmacoddeinameg therapi gwrth-ganser a therapïau cefnogi
3.5 yr angen am fesur ac asesu ymateb, goroesiad a chanlyniadau eraill o ran tiwmorau canser
3.6 cylch y gell a damcaniaeth lladd celloedd
3.7 amserlennu ac egwyddorion sylfaenol therapi gwrth-ganser gyfunol
3.8 ymatebion niweidiol
4. yr angen am fonitro cyfrifiad gwaed a swyddogaeth organau unigolion sy'n derbyn therapi gwrth-ganser
5. atal a thrin achosion cyffredin o wenwyndra
6. yr angen am leihau dogn neu oedi triniaeth unigolyn sydd â niwtropenia a chyflyrau eraill megis namau ar yr arennau a'r afu
7. pwysigrwydd dogfennu achosion o wenwyndra a defnyddio graddfeydd safonol ar gyfer asesu gwenwyndra
8. y data sy'n ofynnol ar gyfer cyfrifo triniaeth yn ôl y protocol triniaeth
9. sut mae gwirio bod yr holl gyfrifiadau dognau ac unedau'r dognau yn gywir, ac wedi cael eu cyfrifo'n gywir yn ôl y protocol ac unrhyw ganllawiau lleol eraill perthnasol
10. rhyngweithio cyffuriau a'i gilydd, rhyngweithio cyffuriau a bwyd, rhyngweithio cyffuriau a pherlysiau ac alergeddau cleifion i gyffuriau
11. eich lefel eich hun o gymhwysedd ac awdurdod wrth ddarparu cyngor i gydweithwyr, unigolion a gofalwyr
12. datblygiad yr afiechyd a'r effaith bosibl ar systemau ffisiolegol
13. perthnasedd triniaethau a chyflyrau clinigol eraill
14. y broses lle cymeradwyir trefniadau triniaeth therapi gwrth-ganser ar lefel leol a sut mae rheoli trefniadau triniaeth nad ydynt yn dilyn y protocol yn unol â chanllawiau rhwydweithio lleol