Rhyddhau'n derfynol gynnyrch therapi gwrth-ganser parenteraidd cyfansawdd at ddefnydd clinigol

URN: SFHPHARM55
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2011

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhyddhau cynnyrch therapi gwrth-ganser perthnasol at ddefnydd clinigol. Mae'n galw am gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol perthnasol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol .

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  2. gwirio bod y cynnyrch a weithgynhyrchwyd yn bodloni'r fanyleb ddiffiniedig
  3. cymryd camau gweithredu adferol os na fodlonir y fanyleb ddiffiniedig
  4. sicrhau bod y cyfarpar a'r cyfleusterau'n bodloni'r safonau gofynnol yn ystod gweithgynhyrchu, a chymryd camau gweithredu adferol os bydd angen
  5. sicrhau bod y deunyddiau crai a'r cynnyrch gorffenedig wedi cael eu storio'n gywir ac o fewn eu hoes silff ddilys
  6. glynu at y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol perthnasol ac asesu pwysigrwydd gwyriadau, gan gymryd camau gweithredu adferol os bydd angen
  7. asesu pwysigrwydd newidiadau i'r cynhyrchu a gynlluniwyd
  8. sicrhau bod y cynnyrch yn bodloni gofynion yr archeb wreiddiol neu'r presgripsiwn gwreiddiol
  9. sicrhau bod y label sydd ar y cynnyrch yn gywir
  10. cymeradwyo rhyddhau'r cynnyrch
  11. cwblhau'r cofnodion perthnasol yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  12. ceisio eglurhad neu gyngor gan berson priodol os bydd angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. egwyddorion Ymarfer Gweithgynhyrchu Da Cyfredol, Ymarfer Gweinyddu Da a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a'u cymhwysiad
  2. gofynion lleol a chenedlaethol a gymeradwywyd ar gyfer rhyddhau cynnyrch therapi gwrth-ganser at ddefnydd clinigol, gan gynnwys mecanweithiau cofnodi ac adrodd ar gyfer cynnyrch nad ydynt yn cydymffurfio
  3. goblygiadau peidio â chadw at y ddeddfwriaeth a'r canllawiau
  4. canllawiau amddiffyniad diogelwch a sut mae eu cymhwyso
  5. manyleb cynnyrch cymeradwy
  6. gofynion storio deunyddiau crai a chynnyrch gorffenedig
  7. y gwahanol gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â rhyddhau proffesiynol a thechnegol
  8. eich lefel bersonol o gyfrifoldeb ac atebolrwydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM55

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Fferylliaeth; cemotherapi; therapi gwrth-ganser; cyfansawdd, parenteraidd; cynnyrch, clinigol; rhyddhau; Gweithdrefnau Gweithredu Safonol; Ymarfer Gweithgynhyrchu Da; Ymarfer Gweinyddu Da; presgripsiwn