Gweinyddu dognau therapi gwrth-ganser claf-benodol
URN: SFHPHARM54
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
31 Mai 2011
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweinyddu a chyflwyno dognau therapi gwrth-ganser claf-benodol. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau a'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol yn eich gweithle
- sicrhau bod y cais am bresgripsiwn yn gyflawn, yn briodol a bod modd ei gyflawni
- sicrhau bod y presgripsiwn wedi cael ei ddilysu'n glinigol fel un diogel a phriodol ar gyfer y claf dan sylw, a hynny gan berson ag awdurdod priodol
- dewis y cynnyrch sy'n bodloni meini prawf y presgripsiwn
- sicrhau addasrwydd cynnyrch therapi gwrth-ganser i'w cyflwyno
- sicrhau bod y cynnyrch wedi cael eu dethol, eu prosesu a'u labelu'n gywir
- sicrhau bod unrhyw gynnyrch sydd wedi dod i ben neu nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu rhoi o'r neilltu
- sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei becynnu'n iawn, gyda dogfennaeth briodol, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- sicrhau bod y cynnyrch wedi cael ei storio'n briodol
- sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn briodol i'r cyrchfan y cytunwyd arno
- ceisio eglurhad neu gyngor gan berson priodol os bydd angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y canllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol cyfredol a'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- ystod, diben, proses a gofynion cynnyrch therapi gwrth-ganser
- y meini prawf ar gyfer storio cynnyrch therapi gwrth-ganser
- gwaredu'n ddiogel gynnyrch therapi gwrth-ganser nad ydynt bellach yn ddilys i'w cyflwyno
- rheoli'r risg sy'n gysylltiedig â thrafod cynnyrch therapi gwrth-ganser
- y personél sydd wedi'u hawdurdodi i ryddhau cynnyrch
- y gwahanol gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â rhyddhau proffesiynol a thechnegol
- eich lefel eich hun o gyfrifoldeb ac atebolrwydd am weinyddu a chyflwyno dognau therapi gwrth-ganser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae SGC eraill yn y gyfres Fferylliaeth sy'n ymwneud â Dilysu presgripsiwn ar gyfer therapi gwrth-ganser a gwirio cywirdeb terfynol moddion a chynnyrch a weinyddwyd. Mae'r rhain ar gael ar wefan Sgiliau er Iechyd.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Mai 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Iechyd
URN gwreiddiol
SFHPHARM54
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Fferylliaeth; cemotherapi; therapi gwrth-ganser; dogn; gweinyddu; cyflwyno; presgripsiwn; Gweithdrefnau Gweithredu Safonol