Datblygu protocolau clinigol ar gyfer darparu therapi gwrth-ganser
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu protocolau clinigol er darparu therapi gwrth-ganser. Mae protocol clinigol yn ganllaw ar gyfer 'safon gofal' sefydledig ac mae'n cynnwys manylion y moddion gwrth-ganser a ddefnyddir ar gyfer diagnosis a bwriad triniaeth penodol, y dognau, y dull gweinyddu, hyd ac amlder y driniaeth, profion labordy, monitro therapi, sgîl-effeithiau a'u rheolaeth a manylion sut mae addasu'r dognau. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle.
Bydd angen i ddefnyddwyr
y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau
diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- nodi'r unigolion sy'n ofynnol i ddatblygu'r protocol, gan gynnwys y staff, yr unigolion a'r gofalwyr perthnasol
- datblygu protocolau manwl sy'n cynnwys rolau a chyfrifoldebau'r rhai dan sylw, amserlenni a'r adnoddau clinigol a thechnegol sy'n ofynnol
- cadw mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol eraill ac arbenigwyr yn ôl y galw i bennu'r gofynion a sicrhau eu cytundeb
- adolygu a gwerthuso protocolau sydd eisoes yn bodoli, deddfwriaeth, arfer gorau cyfredol, safonau cenedlaethol, codau ymarfer
- cynhyrchu dogfennau mewn arddull a iaith briodol
- cynhyrchu protocolau sydd wedi'u hysgrifennu mewn iaith glir, ddiamwys, gyda chyn lleied â phosibl o fyrfoddau ac acronymau
- pennu'r anghenion hyfforddi i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac addysgu'r staff yn unol â hynny
- sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer protocol y therapi gwrth-ganser
- dosbarthu'r protocol gan sicrhau bod y fersiwn flaenorol yn cael ei chlirio a'i dinistrio
- monitro, adolygu ac archwilio gweithrediad y protocol a'r defnydd ymarferol ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. cynllunio triniaeth, prosesau a gweithdrefnau
2. canllawiau triniaeth lleol a chenedlaethol cyfredol
3. cylch y gell a damcaniaeth lladd celloedd
4. amserlennu ac egwyddorion sylfaenol therapi gwrth-ganser gyfunol
5. egwyddorion therapi gwrth-ganser, gan gynnwys:
5.1 dosbarthiad a mecanwaith gweithrediad cyffuriau ar gyfer trin canser
5.2 dehongli data o dreialon clinigol
5.3 gwahaniaethu rhwng cyffuriau o'r un dosbarth
5.4 addasu cyffuriau therapi gwrth-ganser gan asiantau nad ydynt yn rhai therapi gwrth-ganser
5.5 ffarmacocineteg a ffarmacoddeinameg therapi gwrth-ganser a therapïau cefnogi
5.6 mesur ymateb, goroesiad a chanlyniadau eraill tiwmor yn achos canserau sydd oddi mewn i gwmpas eich ymarfer
5.7 ffyrdd o fonitro ymatebion tiwmorau a chynnydd yr afiechyd
5.8 ymatebion niweidiol
6. sut mae dehongli paramedrau gwaed
7. symptomau a rheolaeth argyfyngau oncoleg
8. rheoli symptomau, gan gynnwys niwtropenia
9. gweinyddu therapi gwrth-ganser
10. problemau posibl sy'n gysylltiedig â gweinyddu therapi gwrth-ganser a rheoli a lleiafu risgiau
11. yr angen am waith tîm amlddisgyblaeth
12. llywodraethu clinigol sy'n berthnasol i ddatblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser, gan gynnwys systemau rhagnodi electronig
13. y lefel bersonol o gyfrifoldeb, awdurdod a chymhwysedd ar gyfer datblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser
14. gofynion addysg a hyfforddiant staff sy'n gweithio gyda phrotocolau therapi gwrth-ganser
15. sut mae chwilio am wybodaeth a'i chyrchu'n effeithiol
16. sut mae arfarnu'r wybodaeth yn feirniadol a'i hintegreiddio i'ch sylfaen o wybodaeth er mwyn datblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser
17. anatomeg, ffisioleg, patholeg a fferylleg sy'n briodol ac yn berthnasol ar gyfer datblygu protocolau clinigol ar gyfer therapi gwrth-ganser
18. y gofynion deddfwriaethol, y safonau, a'r canllawiau proffesiynol cyfredol
19. dealltwriaeth ariannol o ariannu cyffuriau canser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn
cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y
GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: Craidd 5
Ansawdd