Paratoi a chynnal yr amgylchedd gwaith ar gyfer gweithgynhyrchu aseptig a gweinyddu cynnyrch meddyginiaethol mewn ystafelloedd glân
URN: SFHPHARM52
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
31 Mai 2011
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, cynnal a monitro'r amgylchedd rheoledig a ddefnyddir ar gyfer gweithgynhyrchu a gweinyddu cynnyrch meddyginiaethol mewn ystafelloedd glân. Mae'n cynnwys cynnal a chydymffurfio ag Egwyddorion Ymarfer Gweithgynhyrchu Da a chanllawiau cysylltiedig. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol a moesegol perthnasol. Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol lleol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod yr ardal waith yn ddiogel i'w defnyddio
- sicrhau argaeledd dogfennau perthnasol ar gyfer y gweithdrefnau i'w dilyn a gweithio'n unol â nhw
- cyflawni monitro amgylcheddol rheolaidd fel y pennwyd gan y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- gwirio bod y cyfarpar yn gweithio'n iawn ac yn ddiogel i'w ddefnyddio
- nodi, cofnodi ac adrodd am ddiffyg cydymffurfio â safonau perthnasol, neu wyro oddi wrth weithdrefnau cymeradwy
- lle bo hynny'n berthnasol, cymryd camau unioni priodol mewn ymateb i faterion o'r fath
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion Ymarfer Gweithgynhyrchu Da a'r canllawiau a'r safonau cysylltiedig
- y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol perthnasol
- dosbarthiad ystafelloedd glân a phwysigrwydd monitro amgylcheddol a'r amlder profi a bennwyd
- dulliau a phrofion ar gyfer monitro'r amgylchedd ffisegol a biolegol a'u diben
- natur halogwyr posibl a goblygiadau halogi
- yr ystod o fesurau a luniwyd i eithrio neu atal halogi
- perfformiad disgwyliedig a chyfyngiadau cyfarpar
- eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Mai 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Iechyd
URN gwreiddiol
SFHPHARM52
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Fferylliaeth; cemotherapi; therapi gwrth-ganser; aseptig; gweithgynhyrchu; gweinyddu; ystafell lân; Gweithdrefnau Gweithredu Safonol; Egwyddorion Ymarfer Gweithgynhyrchu Da