Cefnogi proses weinyddu presgripsiynau
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cefnogi proses weinyddu presgripsiynau. Mae'r safon yn cynnwys trefnu i gynhyrchu mathau addas o bresgripsiwn, o fewn cyfyngiadau'r rôl alwedigaethol, a gwneud newidiadau i gofnodion presgripsiwn yn unol â chyfarwyddiadau pobl eraill berthnasol.
Bydd eich ymarfer yn gyson â chyfyngiadau eich rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd eich ymarfer hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol a chyfredol sy'n berthnasol i'r ymarfer yn y gwaith.
Bydd eich ymarfer yn gyson â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd angen i chi weithio'n fyfyriol. Byddwch yn gweithio bob amser yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n gysylltiedig â'r ffordd y darperir gwasanaeth fferyllfa yn eich gweithle. Dylech fod yn ofalgar ac yn dosturiol, yn unol â chanllawiau gofal iechyd presennol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- trefnu ar gyfer cynhyrchu presgripsiynau, gan gynnwys:
- cais brys
- presgripsiynau amlroddadwy
- presgripsiynau cyfresol/swp
- ceisiadau gan unigolion
- adolygu addasrwydd unigolyn ar gyfer presgripsiynau cyfresol/swp
- cynorthwyo â gosod a chyflwyno rhagnodi cyfresol/swp
- gwneud newidiadau penodol, yn unol â chyfarwyddyd pobl eraill berthnasol, i gofnodion presgripsiwn amlroddadwy unigolion er mwyn rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn unol â gofynion y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
- gwaredu pob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y gwahanol fathau o bresgripsiwn a gwahanol fformatau presgripsiwn
- gwahanol fathau o ragnodwyr
- rheoliadau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o bresgripsiynau a meddyginiaethau
- y gwahanol fathau o ffynonellau cyfeirio sydd ar gael, gan gynnwys pryd a sut i'w defnyddio
- y gwahanol fathau o bresgripsiynau a phryd y cânt eu defnyddio
- y manylion sy'n ofynnol eu cynnwys ar bresgripsiwn a pham mae eu hangen
- yr amrywiaeth o gynnyrch meddyginiaethol a all gael eu dosbarthu ar bob math o ffurflen a'r rhesymau dros gyfyngiadau
- egwyddorion rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel
- confensiynau, byrfoddau a geirfa feddygol rhagnodi
- enwau patent a chyffredinol meddyginiaethau o fewn cwmpas eich ymarfer
- ffurfiau dos a'u priodweddau a'u defnydd
- sut caiff meddyginiaethau eu rhoi
- gwahanol gryfderau, ffurfiau, dosys a symiau meddyginiaethau a pham y cânt eu defnyddio
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
- sut i sicrhau gofynion y sefydliad ar gyfer cadw cofnodion manylion unigol a chyfrinachedd
- sut i gael gwared ar bob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad