Cyfrannu at yr adolygiad anghlinigol o feddyginiaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cyfrannu at yr adolygiad anghlinigol o feddyginiaeth. Mae'r safon yn cynnwys adnabod problemau â phresgripsiynau a chymryd camau priodol o fewn cyfyngiadau'r rôl alwedigaethol fel rhan o'r adolygiad anghlinigol o feddyginiaeth.
Bydd eich ymarfer yn gyson â chyfyngiadau eich rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd eich ymarfer hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol a chyfredol sy'n berthnasol i'r ymarfer yn y gwaith.
Bydd eich ymarfer yn gyson â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd angen i chi weithio'n fyfyriol. Byddwch yn gweithio bob amser yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n gysylltiedig â'r ffordd y darperir gwasanaeth fferyllfa yn eich gweithle. Dylech fod yn ofalgar ac yn dosturiol, yn unol â chanllawiau gofal iechyd presennol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- adnabod a chymryd camau priodol ynghylch presgripsiynau amlroddadwy:
- y mae cyfarwyddiadau eu dos ar goll neu'n amwys
- sydd â chyfarwyddiadau dos talfyredig
- sy'n eitemau presgripsiwn amlroddadwy dyblyg neu debyg
- sy'n eitemau presgripsiwn amlroddadwy darfodedig sydd heb gael eu harchebu o fewn cyfnod penodedig
- sy'n cael eu tanarchebu/eu gorarchebu
- alinio symiau eitem bresgripsiwn amlroddadwy â chyflenwad nifer penodol o ddiwrnodau
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn unol â gofynion y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
- gwaredu pob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- yr amrywiaeth o broblemau sy'n gysylltiedig ag adolygu presgripsiwn a sut i'w datrys
- sut i dynnu presgripsiynau ymaith a chofnodi hynny
- yr angen i gofnodi meddyginiaeth sy'n cael ei chyflenwi trwy bresgripsiwn allanol i sicrhau bod y rhain yn cael eu henwi'n gywir mewn cofnodion unigol
- sut a phryd i adolygu rhestr meddyginiaethau amlroddadwy unigolyn i nodi a oes eitemau sydd heb eu harchebu, sy'n cael eu harchebu'n anaml neu sydd wedi'u gorarchebu
- sut a phryd i gysoni eitemau presgripsiwn amlroddadwy o ran symiau a dyddiadau
- sut i nodi/rhoi gwybod am ddosbarthiadau cyffuriau therapiwtig yn glinigol (fel y'u nodwyd gan SOP) sydd heb gael eu harchebu o fewn cyfnod penodol
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
- sut i sicrhau gofynion y sefydliad ar gyfer cadw cofnodion manylion unigol a chyfrinachedd
- sut i gael gwared ar bob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad