Cyfrannu at reoli archwiliad ac adolygiad meddyginiaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cyfrannu at reoli gwaith archwilio ac adolygu meddyginiaeth. Mae'r safon yn cynnwys cael at systemau cofnodion electronig cleifion a'u chwilio i nodi (o fewn cyfyngiadau'r rôl alwedigaethol) unigolion penodol, grwpiau cleifion a data yn unol â cheisiadau pobl eraill berthnasol a gwneud newidiadau, eto yn unol â chyfarwyddyd pobl eraill berthnasol, i gofnodion presgripsiynau amlroddadwy unigolion er mwyn rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel.
Bydd eich ymarfer yn gyson â chyfyngiadau eich rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd eich ymarfer hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol a chyfredol sy'n berthnasol i'r ymarfer yn y gwaith.
Bydd eich ymarfer yn gyson â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni yn unol â'r fframweithiau rheoleiddiol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth bresennol. Bydd angen i chi weithio'n fyfyriol. Byddwch yn gweithio bob amser yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n gysylltiedig â'r ffordd y darperir gwasanaeth fferyllfa yn eich gweithle. Dylech fod yn ofalgar ac yn dosturiol, yn unol â chanllawiau gofal iechyd presennol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cael at a chwilio systemau cofnodion electronig cleifion i nodi unigolion, grwpiau cleifion a data penodol, yn unol â chais pobl eraill berthnasol
- gwneud newidiadau penodol, yn unol â chyfarwyddyd pobl eraill berthnasol, i gofnodion presgripsiwn unigolion er mwyn rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel
- cynhyrchu, coladu a chyflwyno gwybodaeth benodol am glaf, yn unol â chais pobl berthnasol eraill
- gweinyddu cyfathrebu cymeradwy
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- ymateb yn briodol i Adalwadau Cyffuriau, rhybuddion diogelwch a phrinderau meddyginiaethau trwy gynnal chwiliadau ar systemau cofnodion electronig cleifion am unigolion y byddai hyn yn effeithio arnynt
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn unol â gofynion y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
- gwaredu pob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldebau
- egwyddorion rhagnodi yn gost-effeithiol, yn rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddiogel
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- sut i gael at a chwilio systemau cofnodion electronig cleifion
- sut i adnabod pan fydd cofnodion meddyginiaeth yn gyfredol
- sut i gasglu, coladu a thrin data i'w gyflwyno i'r fferyllfa ac i staff perthnasol eraill mewn amrywiaeth o fformatau adrodd
- yr amrywiaeth o ymatebion gofynnol i Adalwadau Cyffuriau, rhybuddion diogelwch a phrinderau meddyginiaethau a rôl systemau cofnodion electronig cleifion
- sut i weinyddu'r cyfathrebu cymeradwy
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gyfathrebu ar draws gwasanaethau perthnasol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
- sut i sicrhau gofynion y sefydliad ar gyfer cadw cofnodion manylion unigol a chyfrinachedd
- sut i gael gwared ar bob gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad