Cynorthwyo i gyflwyno eitemau a ragnodwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynorthwyo i gyflwyno eitemau a ragnodwyd sydd wedi cael eu gweinyddu.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
- cynnal cyfrinachedd yr unigolyn bob amser
- cadarnhau bod cyflwyno'r eitem a ragnodwyd oddi mewn i derfynau eich rôl alwedigaethol
- cadarnhau hunaniaeth yr unigolyn, a'i fod yn cyfateb i'r presgripsiwn
- nodi a yw'r unigolyn wedi defnyddio'r eitem a ragnodwyd yn y gorffennol
- canfod a yw'r unigolyn yn cymryd unrhyw feddyginiaeth arall, p'un a yw wedi'i rhagnodi neu beidio, a chyfeirio'r mater at berson priodol lle bo angen
- cadarnhau bod yr eitem/au a ragnodwyd yn cyfateb i'r presgripsiwn
- cyflwyno'r eitem a ragnodwyd yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- darparu cyngor i'r unigolyn i optimeiddio'r defnydd o'r eitem a ragnodwyd ar eu cyfer oddi mewn i derfynau eich rôl alwedigaethol
- darparu'r holl eitemau amrywiol angenrheidiol a thaflenni gwybodaeth i gleifion
- nodi pryd bydd angen cyngor pellach neu wybodaeth ar yr unigolyn
- cyfeirio'r unigolyn at berson priodol, gan ddarparu'r holl wybodaeth berthnasol
- cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
- pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
- pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
- dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
- y gofynion moesegol a chyfreithiol cyfredol sy'n llywodraethu cyflwyno presgripsiwn
- pwysigrwydd cadarnhau pwy yw'r unigolyn cyn cyflwyno eitemau a weinyddwyd
- pwysigrwydd darparu gwybodaeth berthnasol am yr eitem a ragnodwyd oddi mewn i gwmpas eich ymarfer
- sut mae moddion yn cael eu gweinyddu a sut mae eu storio'n ddiogel
- pwysigrwydd sicrhau bod pecynnu priodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer moddion a gyflwynwyd
- pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant