Cadarnhau addasrwydd moddion unigolyn ar gyfer defnydd a sicrhau cyflenwad digonol

URN: SFHPHARM31
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cadarnhau addasrwydd moddion unigolyn ar gyfer defnydd. Mae hyn yn golygu gwirio bod y moddion yn cyfateb i'r hyn sydd wedi'i ragnodi ar gyfer yr unigolyn ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod gan yr unigolyn gyflenwad digonol o foddion, nodi unrhyw anghysondebau a delio gydag unrhyw broblemau yn briodol. Gellir cymhwyso'r safon mewn amrywiaeth o leoliadau. 

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  2. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
  3. sicrhau caniatâd dilys gan yr unigolyn neu eu gofalwr i ddefnyddio, clirio neu ddinistrio moddion yr unigolyn ei hun os nad ydynt yn briodol i'w defnyddio
  4. esbonio diben gwirio moddion yr unigolyn ei hun ac ateb unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r broses
  5. casglu gwybodaeth briodol ynghylch moddion yr unigolyn
  6. asesu moddion yr unigolyn ei hun i sicrhau eu bod yn addas at y diben, bod cyflenwad digonol ohonynt, a chwblhau'r dogfennau priodol yn ôl y galw
  7. cyfeirio unrhyw foddion neu gynnyrch na ellir eu hadnabod at berson priodol
  8. nodi unrhyw anghysondebau rhwng moddion yr unigolyn ei hun ac eitemau a ragnodwyd
  9. cofnodi ac adrodd am unrhyw anghysondebu a materion eraill nodwyd wrth berson priodol
  10. nodi'r moddion heb ei labelu sydd gan yr unigolyn sy'n briodol i'w ddefnyddio, a'i labelu yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  11. trefnu bod moddion yn cael ei ail-labelu lle bo hynny'n briodol
  12. trefnu bod moddion nad yw'n briodol ei ddefnyddio yn cael ei glirio a/neu ei ddinistrio a'i gofnodi yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  13. trefnu bod unrhyw foddion newydd sy'n ofynnol yn cael ei gyflwyno yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  14. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  9. pwysigrwydd cynnwys unigolion mewn trafodaeth a sut gellir cyflawni hynny
  10. diben cadarnhau addasrwydd moddion yr unigolyn ei hun yn ôl y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  11. y dogfennau priodol sy'n ofynnol ar gyfer cofnodi gwybodaeth ar ôl asesu moddion
  12. y confensiynau, y byrfoddau a'r derminoleg feddygol wrth ragnodi
  13. y gwahanol ffurfiau sydd i foddion
  14. y ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelu a storio moddion, gan gynnwys dyddiadau dod i ben
  15. ffactorau a all effeithio ar sut mae moddion yn cael ei gymryd
  16. yr agweddau a'r goblygiadau seicolegol, galwedigaethol a chymdeithasol ar gyfer unigolion sy'n byw gyda chyflyrau
  17. y gofynion labelu ar gyfer moddion
  18. y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â moddion nad yw'n cael ei drwyddedu yn y Deyrnas Unedig sy'n rhan o gwmpas eich ymarfer
  19. defnyddio cymhorthion cydymffurfio
  20. y rheoliadau sy'n gysylltiedig â dinistrio moddion 
  21. deddfwriaeth a phrosesau sefydliadol sy'n ymwneud â sicrhau cydsyniad dilys
  22. y camau i'w cymryd os na sicrheir cydsyniad dilys
  23. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB6
Cynllunio triniaeth ac asesu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM31

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

asesu; gwirio; meddyginiaeth; gwiriadau; cyflenwad