Ymgymryd â phrawf cywirdeb terfynol ar gyfer moddion a chynnyrch a weinyddwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal prawf cywirdeb terfynol ar gyfer eitemau rhagnodedig sydd wedi cael eu gweinyddu, ar ôl y gwiriad clinigol. Gwneir y gwiriad terfynol cyn i'r eitemau gael eu rhyddhau i'w cyflwyno.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
- sicrhau bod y presgripsiwn wedi cael gwiriad clinigol gan berson priodol ac wedi cael ei asesu fel un sy'n addas i'w weinyddu
- gwirio bod y presgripsiwn yn ddilys neu wedi cael ei ddilysu, ac wedi'i gymeradwyo neu ei anodi'n gywir
- cyflawni gwiriad cywirdeb terfynol ar bob un o'r moddion/cynnyrch a weinyddwyd yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- anodi'r cynnyrch os bydd angen
- darparu adborth i unigolion pan nodir gwallau a threfnu bod y gwall yn cael ei unioni/adrodd yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- sicrhau bod cofnodion o wallau yn cael eu cadw yn unol â pholisïau a chanllawiau lleol
- gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
- sicrhau bod unrhyw daflenni gwybodaeth perthnasol i gyd-fynd â'r moddion neu'r cynnyrch wedi cael eu darparu gyda'r dyfeisiau meddygol priodol/eitemau amrywiol
- gosod y moddion neu'r cynnyrch yn y pecyn priodol
- anodi'r presgripsiwn yn briodol a'i anfon ymlaen i'w gyflwyno'n briodol
- cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8. y gwahanol fathau o ragnodwyr
9. y gofynion pecynnu a labelu ar gyfer moddion a chynnyrch
10. y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â:
10.1 y cyflenwad o wahanol fathau o foddion
10.2 dilysrwydd presgripsiynau
11. sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau gweinyddu
12. achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau gweinyddu
13. sut mae rhoi gwybod i'r person priodol am wallau
14. gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
15. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
16. yr ystod o foddion a chynnyrch y gellir eu gweinyddu ar bob math o ffurflen presgripsiwn a'r rhesymau ar gyfer cyfyngiadau
17. pwysigrwydd amodau storio a dyddiadau dod i ben
18. offer atodol a gwybodaeth ategol
19. y gwahanol fathau o bresgripsiynau neu drawsgrifiadau
20. sut mae sicrhau bod cyfrifiadau'n gywir
21. y confensiynau, y byrfoddau a'r derminoleg feddygol wrth ragnodi
22. enwau masnachol a chyffredinol y moddion sydd o fewn cwmpas eich ymarfer
23. sut mae moddion yn cael eu gweinyddu
24. sut defnyddir moddion a'u heffaith ar ffisioleg sylfaenol dynol
25. gwahanol gryfderau, ffurfiau, dognau a symiau o foddion
26. camau gweithredu moddion a chynnyrch, gan gynnwys rhyngweithiad cyffuriau a gwrth-ddangosyddion
27. sut mae defnyddio cofnodion meddyginiaeth cleifion neu ffynonellau gwybodaeth eraill
28. cymeradwyo presgripsiynau yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
29. cyflawni polisïau sy'n berthnasol i'ch ymarfer
30. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant