Prosesu gwybodaeth fferyllfa i sicrhau ad-daliad a chydnabyddiaeth priodol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â sicrhau ad-daliad a chydnabyddiaeth am bresgripsiynau a gwasanaethau fferyllfa.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
- sicrhau eglurhad ynghylch unrhyw wybodaeth sydd ar goll gyda'r person priodol
- cadarnhau pa eitemau a ganiateir ar bresgripsiwn gyda'r adran briodol o'r Tariff Cyffuriau neu'r ffurflyfr lleol os yw hynny'n briodol
- cyflwyno hawliadau cywir a phriodol ar gyfer ad-daliad/cydnabyddiaeth presgripsiynau neu wasanaeth
- gwirio bod unrhyw wybodaeth ar y presgripsiwn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ac yn gyflawn a darllenadwy
- cofnodi nifer y ffurflenni presgripsiwn, yr eitemau a/neu'r taliadau yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- cwblhau ffurflenni ad-daliadau/cydnabyddiaeth cywir yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- cyflwyno ffurflenni ad-daliadau/cydnabyddiaeth i'r awdurdod perthnasol, gan ddilyn y canllawiau a bennwyd lle bo gofyn
- delio'n brydlon gydag unrhyw bresgripsiynau a wrthodwyd gan yr awdurdod perthnasol yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8. pwrpas y Tariff Cyffuriau, gan gynnwys:
8.1 y rheoliadau sy'n llywodraethu'r cyflenwad o eitemau a ganiateir ar bresgripsiynau
8.2 y dosbarthiadau a'r meini prawf ar gyfer ad-daliadau/cydnabyddiaeth presgripsiynau
9. enwau masnachol a chyffredinol moddion a'r gwahaniaeth rhyngddynt
10. adnoddau i gynorthwyo wrth gyflwyno hawliadau am ad-daliadau presgripsiynau a gwasanaeth
11. y cam i'w gymryd pan gyflwynir presgripsiwn anghyflawn neu aneglur
12. y systemau a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i gwblhau'r ffurflenni ad-daliadau
13. y systemau a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i gwblhau'r ffurflenni cydnabyddiaeth
14. y gweithdrefnau cywir i sicrhau ad-daliad am bresgripsiynau a gwasanaethau
15. y rhesymau pam na all yr awdurdod perthnasol roi ad-daliadau/cydnabyddiaeth
16. goblygiadau hawliadau anghywir am ad-dalu taliadau presgripsiwn a gwasanaethau, lle bo hynny'n briodol
17. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: Craidd 1 Cyfathrebu