Gwirio dogfennau a deunyddiau cyn paratoi cynnyrch aseptig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu gwirio dogfennau a deunyddiau cyn paratoi cynnyrch aseptig. Mae'n cwmpasu paratoi aseptig ar gyfer gweinyddu a gweithgynhyrchu.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
- gwirio bod gennych y dogfennau cywir ar gyfer y cynnyrch
- sicrhau bod y deunyddiau cychwynnol wedi cael eu casglu'n gywir ac yn barod ar gyfer y broses aseptig
- gwirio bod y trawsgrifiadau, y cyfrifiadau, y rhifau sypiau a'r dyddiadau dod i ben i gyd yn gywir
- gwirio'r rhif swp a ddyrannwyd a'r dyddiad dod i ben ar gyfer y cynnyrch
- gwirio bod y dogfennau a'r labeli a gynhyrchwyd yn gywir, yn gyflawn, ac yn ddarllenadwy
- sicrhau bod y deunyddiau crai a'r cyfarpar/nwyddau traul cywir wedi cael eu crynhoi ar gyfer y cynnyrch ac yn addas at y diben
- rhoi cynnyrch mewn cwarantîn yn unol â gofynion sefydliadol
- cofnodi ac adrodd am unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi adborth i gydweithwyr ynghylch unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau er mwyn lleiafu'r gwallau posibl yn y dyfodol
- gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
- cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
- pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
- pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
- egwyddorion ymarfer gweithgynhyrchu da, gan gynnwys systemau ansawdd fferyllol a'ch rôl chithau yn hynny
- y canllawiau cydnabyddedig ar gyfer y broses aseptig
- y gwahaniaeth rhwng paratoi ar gyfer cleifion unigol a pharatoi ar gyfer stoc a sut mae hynny'n cael ei roi ar waith yn gyffredinol yn y gweithle
- pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio yn lân
- pwysigrwydd hylendid personol a defnydd cywir o ddillad amddiffynnol / ystafell lân
- y gwahanol fathau o ardaloedd amgylcheddol a reolir a phryd dylid eu defnyddio
- ffynonellau posibl halogi a'r dulliau atal priodol
- y gwahanol fathau o gynnyrch
- nodweddion cemegol a ffisegol cynhwysion sy'n berthnasol i'r ffurfio a'r cymysgu, gan gynnwys unrhyw ryngweithio sy'n digwydd o ran y deunyddiau crai a'r cydrannau
- egwyddorion cyfrifiadau fformwlâu, pwysau a mesurau
- y deunyddiau a'r cyfarpar sy'n angenrheidiol ar gyfer paratoi cynnyrch aseptig
- technegau aseptig a phryd mae defnyddio'r gwahanol brosesau i leiafu unrhyw risgiau cysylltiedig
- pwysigrwydd cyflawni gwiriadau cywirdeb ac ansawdd
- y rhesymau am systemau gweithio diogel, gan gynnwys y gofynion cwarantîn a'r prosesau gwirio priodol
- pwysigrwydd defnyddio dogfennau cymeradwy
- sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
- achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
- gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
- pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant