Paratoi dogfennau a deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynnyrch aseptig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu cynhyrchu dogfennau a pharatoi'r deunyddiau cychwynol, y cydrannau a'r nwyddau traul eraill sy'n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu cynnyrch aseptig. Mae'n cwmpasu paratoi dogfennau ar gyfer gweinyddu a gweithgynhyrchu.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
- gwisgo'r dillad priodol sy'n berthnasol i'r maes gwaith, gan ddilyn y weithdrefn gywir
- sicrhau bod yr ardaloedd amgylcheddol wedi cael eu glanhau gan ddefnyddio'r cyfarpar a'r deunyddiau cywir
- sicrhau bod yr ardal waith bob amser yn lân ac yn daclus
- sicrhau eich bod yn gweithio gan ddefnyddio'r presgripsiwn cywir/archeb gywir
- cadarnhau bod gennych chi'r dogfennau cywir ar gyfer y cynnyrch, gan gwblhau unrhyw gyfrifiadau fel sy'n briodol
- cynhyrchu'r dogfennau perthnasol yn unol â chanllawiau a phrotocolau lleol
- cynhyrchu'r labeli a sicrhau bod hanes yr holl labeli a gynhyrchir yn hysbys a'u bod yn gyflawn, yn gywir ac yn ddarllenadwy
- dyrannu rhif swp a dyddiad dod i ben ar gyfer y cynnyrch
- sicrhau bod y paramedrau amgylcheddol perthnasol o fewn y terfynau a bennwyd
- dethol y deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar cywir ar gyfer y cynnyrch, gan gofnodi'r wybodaeth berthnasol ar y dogfennau cywir
- cadarnhau bod y deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar yn addas at y diben
- sicrhau bod y gwiriadau priodol fel rhan o'r broses wedi cael eu cyflawni gan y person perthnasol
- cofnodi ac adrodd am unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi adborth i gydweithwyr ynghylch unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau er mwyn lleiafu'r gwallau posibl yn y dyfodol
- nodi manylion cywir a chlir ar yr holl ddogfennau perthnasol
- diheintio'r deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar er mwyn eu trosglwyddo i'r ystafell lân
- gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
- cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
- pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
- pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
- egwyddorion ymarfer gweithgynhyrchu da, gan gynnwys systemau ansawdd fferyllol a'ch rôl chithau yn hynny
- y gwahaniaeth rhwng paratoi ar gyfer cleifion unigol a pharatoi ar gyfer stoc a sut mae hynny'n cael ei roi ar waith yn gyffredinol yn y gweithle
- y canllawiau cydnabyddedig sy'n ymwneud â pharatoi aseptig
- pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio yn lân
- pwysigrwydd hylendid personol a defnydd cywir o ddillad amddiffynnol / ystafell lân
- y gwahanol fathau o ardaloedd amgylcheddol a reolir a phryd dylid eu defnyddio
- ffynonellau posibl halogi a'r dulliau atal priodol
- y deunyddiau a'r cyfarpar sy'n angenrheidiol ar gyfer paratoi cynnyrch aseptig
- egwyddorion cyfrifiadau fformwlâu, pwysau a mesurau
- pwysigrwydd paramedrau amgylcheddol, sut mae cyflawni eu gweithdrefnau monitro ac atgyfeirio os ydynt y tu allan i'r terfynau a bennwyd
- y gwahanol fathau o gynnyrch
- nodweddion cemegol a ffisegol cynhwysion sy'n berthnasol i'r ffurfio a'r cymysgu, gan gynnwys unrhyw ryngweithio sy'n digwydd o ran y deunyddiau crai a'r cydrannau
- gofynion a chonfensiynau labelu a phecynnu
- technegau aseptig a phryd mae defnyddio'r gwahanol brosesau i leiafu unrhyw risgiau cysylltiedig
- y gweithdrefnau ar gyfer glanhau, dadhalogi, a pharatoi'r amgylchedd a'r cydrannau
- pwysigrwydd cyflawni gwiriadau cywirdeb ac ansawdd
- pwysigrwydd defnyddio dogfennau cymeradwy
- sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
- achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
- gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
- pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant