Paratoi cynnyrch aseptig

URN: SFHPHARM19
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu paratoi cynnyrch aseptig, gan gynnwys paratoi'r amgylchedd, yr hunan, a gwirio fel rhan o'r broses. Mae'n cwmpasu paratoi aseptig ar gyfer gweinyddu a gweithgynhyrchu.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  2. ymgymryd â monitro amgylcheddol perthnasol, gan wirio bod y paramedrau, lle bo hynny'n briodol, oddi mewn i'r terfynau a bennwyd
  3. cymryd camau gweithredu priodol os yw'r paramedrau amgylcheddol y tu allan i'r terfynau a bennwyd
  4. gwisgo'r dillad ystafell lân priodol a dilyn y weithdrefn gywir o ran gwisgo
  5. glanhau a pharatoi'r ardaloedd amgylcheddol gan ddefnyddio'r deunyddiau cywir
  6. diheintio'r deunyddiau cychwynnol a'r cyfarpar cyn eu cyflwyno a'u trosglwyddo ym mhob cam o fewn yr ardal waith
  7. paratoi'r cynnyrch gan ddefnyddio'r broses a'r cyfarpar cywir, yn unol â'r dogfennau a'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  8. sicrhau bod y gwiriadau priodol fel rhan o'r broses wedi cael eu cyflawni gan y person perthnasol
  9. cymryd camau unioni, oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb eich hun, os bydd damwain/digwyddiad/gwall yn digwydd wrth baratoi, gan gynnwys cwblhau'r dogfennau gofynnol
  10. gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
  11. cofnodi ac adrodd am unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. rhoi adborth i gydweithwyr ynghylch unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau er mwyn lleiafu'r gwallau posibl yn y dyfodol
  13. glanhau a dadhalogi pob ardal waith gan ddefnyddio'r dull a'r cyfarpar priodol, a chlirio pob gwastraff oddi yno yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  14. labelu'r cynnyrch a chwblhau'r dogfennau yn unol â'r polisi lleol
  15. rhoi cynnyrch mewn cwarantîn yn unol â gofynion sefydliadol
  16. cwblhau'r holl gysoni a chyfrifiadau yn gywir ar yr holl ddogfennau perthnasol
  17. storio a/neu gludo'r cynnyrch yn gywir, gan roi sylw arbennig i gynnal y 'gadwyn oer' os yw hynny'n briodol
  18. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. egwyddorion ymarfer gweithgynhyrchu da, gan gynnwys systemau ansawdd fferyllol a'ch rôl chithau yn hynny
  9. y gwahaniaeth rhwng paratoi ar gyfer cleifion unigol a pharatoi ar gyfer stoc a sut mae hynny'n cael ei roi ar waith yn gyffredinol yn y gweithle
  10. y canllawiau cydnabyddedig sy'n ymwneud â pharatoi aseptig
  11. pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio yn lân
  12. pwysigrwydd hylendid personol a defnydd cywir o ddillad amddiffynnol / ystafell lân
  13. y gwahanol fathau o ardaloedd amgylchedd a phryd dylid eu defnyddio
  14. ffynonellau posibl halogi a'r dulliau atal priodol
  15. pwysigrwydd storio cynnyrch yn gywir, yn arbennig yng nghyswllt cynnal y gadwyn oer rhag agweddau cemegol a microfiolegol
  16. y gwahanol fathau o gynnyrch
  17. nodweddion cemegol a ffisegol cynhwysion sy'n berthnasol i'r ffurfio a'r cymysgu, gan gynnwys unrhyw ryngweithio sy'n digwydd o ran y deunyddiau crai a'r cydrannau
  18. y gwahanol fathau o gyfarpar a nwyddau traul a pha gynnyrch mae'n rhaid eu defnyddio ar eu cyfer
  19. y gweithdrefnau ar gyfer paratoi, glanhau a dadhalogi cyfarpar ac ardaloedd gwaith
  20. pwysigrwydd storio cyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr sy'n barod i'w ddefnyddio
  21. egwyddorion cyfrifiadau fformwlâu, pwysau a mesurau
  22. pwysigrwydd paramedrau amgylcheddol, sut mae cyflawni eu gweithdrefnau monitro ac atgyfeirio os ydynt y tu allan i'r terfynau a bennwyd
  23. technegau aseptig a phryd mae defnyddio'r gwahanol brosesau i leiafu unrhyw risgiau cysylltiedig
  24. pwysigrwydd cyflawni gwiriadau cywirdeb ac ansawdd
  25. pwysigrwydd cysoni labeli a chynnyrch
  26. y rhesymau am systemau gweithio diogel, gan gynnwys y gofynion cwarantîn a'r prosesau gwirio priodol
  27. y dulliau a'r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer pecynnu
  28. y gweithdrefnau ar gyfer trafod a gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel
  29. pwysigrwydd defnyddio dogfennau cymeradwy
  30. sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
  31. achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
  32. gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
  33. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM19 & SFHPHARM18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

aseptig; cynnyrch; gweithgynhyrchu; cynnyrch fferyllol; cynhyrchu; fferylliaeth