Gweithgynhyrchu cynnyrch meddyginiaethol a'u crynhoi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r prosesau a'r gweithdrefnau ar gyfer gweithgynhyrchu, pecynnu a thros-labelu sypiau o gynnyrch meddyginiaethol, gan gynnwys paratoi'r amgylchedd a'r hunan. Mae hefyd yn cwmpasu torri cynwysyddion mawr o gynnyrch meddyginiaethol i lawr a'u hailbecynnu i feintiau sy'n briodol i'w defnyddio. Yr enw ar hyn yw crynhoi, ac yn aml cyfeirir ato fel rhag-becynnu.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
- sicrhau bod cyfarpar wedi cael ei wirio i sicrhau ei fod wedi'i galibreiddio a'i ddilysu cyn ei ddefnyddio
- cyn i chi gychwyn ar y gwaith paratoi, cadarnhau bod y dogfennau cywir, y deunyddiau crai, y cyfarpar a'r nwyddau traul ar gael ac yn barod i'w defnyddio
- monitro'r paramedrau amgylcheddol perthnasol a sicrhau, lle bo hynny'n briodol, eu bod o fewn y terfynau a bennwyd
- cymryd camau gweithredu priodol os yw'r paramedrau amgylcheddol y tu allan i'r terfynau a bennwyd
- gwisgo'r dillad priodol sy'n berthnasol i'r maes gwaith, gan ddilyn y weithdrefn gywir
- sicrhau bod yr ardaloedd amgylcheddol yn lân ac wedi'u paratoi gan ddefnyddio'r deunyddiau cywir
- paratoi cynnyrch yn unol â'r dogfennau, gan ddefnyddio'r broses a'r cyfarpar cywir, ac ymgymryd â'r holl wiriadau proses ar yr adegau perthnasol
- cwblhau unrhyw brosesau sterileiddio/glanweithio er mwyn bodloni'r gofynion sicrhau ansawdd
- labelu'r cynnyrch, ei becynnu, ac os bydd angen ei labelu mewn unrhyw becynnu eilaidd a pharatoi samplau rheoli ansawdd fel sy'n briodol
- cwblhau'r holl gysoni a chyfrifiadau angenrheidiol yn gywir o ran y cynnyrch, y pecynnu a'r labelu
- cwblhau'r holl ddogfennau'n glir ac yn gywir, yn barod i'w gwirio
- rhoi cynnyrch mewn cwarantîn yn unol â gofynion sefydliadol
- sicrhau bod yr ardaloedd amgylcheddol yn cael eu glanhau a'u dadhalogi gan ddefnyddio'r dull a'r cyfarpar priodol
- sicrhau bod yr holl gyfarpar yn cael ei ddatod, ei lanhau, ei ddadhalogi a'i storio neu ei waredu'n gywir, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- rhoi gwybod i berson priodol am unrhyw ganlyniadau nad ydynt yn cyfateb i'r fanyleb, digwyddiadau anghyffredin neu ddiffygion, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
- cofnodi ac adrodd am unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi adborth i gydweithwyr ynghylch unrhyw gamgymeriadau a fu bron â digwydd neu wallau er mwyn lleiafu'r gwallau posibl yn y dyfodol
- cymryd cam gweithredu priodol yn dilyn digwyddiad anghyffredin, oddi mewn i derfynau eich awdurdod
- cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
- pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
- pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
- egwyddorion ymarfer gweithgynhyrchu da, gan gynnwys systemau ansawdd fferyllol a'ch rôl chithau yn hynny
- y gwahaniaeth rhwng paratoi ar gyfer cleifion unigol a pharatoi ar gyfer stoc a sut mae hynny'n cael ei roi ar waith yn gyffredinol yn y gweithle
- canllawiau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu cynnyrch meddyginiaethol
- pwysigrwydd defnyddio dogfennau cymeradwy
- pwysigrwydd cadw'r amgylchedd gweithio yn lân
- hylendid personol a defnyddio dillad amddiffynnol / ystafell lân
- ffynonellau posibl halogi a'r dulliau atal priodol
- pwysigrwydd paramedrau amgylcheddol, sut mae cyflawni eu gweithdrefnau monitro ac atgyfeirio os ydynt y tu allan i'r terfynau a bennwyd
- nodweddion cemegol a ffisegol cynhwysion sy'n berthnasol i'r ffurfio a'r cymysgu, gan gynnwys unrhyw ryngweithio sy'n digwydd o ran y deunyddiau crai a'r cydrannau
- egwyddorion cyfrifiadau fformwlâu, pwysau a mesurau
- paratoi cyfarpar, ei gydosod, a'i gynnal
- egwyddorion, nodweddion a defnyddiau gwahanol fathau o gynwysyddion a phryd mae defnyddio'r gwahanol fathau
- natur a defnydd gwahanol ffurfiau o'r cynnyrch
- paratoi a defnyddio amodau a reolir yn amgylcheddol
- yr egwyddorion a'r gweithdrefnau ar gyfer paratoi cynnyrch meddyginiaethol
- cysoni'r deunyddiau a'r gofynion labelu a phecynnu
- y rhesymau am systemau gweithio diogel, gan gynnwys y gofynion cwarantîn a'r prosesau gwirio priodol
- sut mae canfod camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
- achosion a chanlyniadau camgymeriadau a fu bron â digwydd a gwallau
- gweithdrefnau a sianeli cyfathrebu lleol a/neu genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am wallau
- egwyddorion a gweithdrefnau ar gyfer sterileiddio cynnyrch
- gwaredu deunyddiau gwastraff a deunyddiau glanhau yn ddiogel
- sut mae datod, glanhau, dadhalogi a storio cyfarpar yn gywir
- sut mae glanhau a dadhalogi'r ardal baratoi
- pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant