Cyflenwi stoc fferyllol

URN: SFHPHARM15
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu cyflenwi stoc fferyllol a allai gynnwys moddion, dyfeisiau neu beiriannau. Mae hyn yn galw am wirio archebion stoc, pecynnu'r stoc sy'n ofynnol i sicrhau ei fod yn cael ei gludo'n ddiogel, a threfnu cludiant i'r cyrchfan gofynnol. Mae'n cyfeirio at ddarparu stoc fferyllol yn y fferyllfa ac i unrhyw ardaloedd eraill megis unedau cleifion neu gartrefi preswyl.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2.    cyflenwi'r stoc fel sy'n briodol, yn unol â'r canllawiau cyfredol ac ymarfer da o ran cylchdroi stoc
3.    cynhyrchu rhestr grynhoi pan fo hynny'n briodol a chadarnhau bod yr eitemau a gyflenwyd yn cyfateb i'r archeb stoc
4.    dewis y cynnyrch cywir i gyfateb i'r cais gwreiddiol neu'r rhestr grynhoi lle bo hynny'n briodol
5.    cadarnhau bod y cynnyrch a ddewiswyd yn gywir, gan gynnwys:
5.1    y cyffur, ei ffurf, ei gryfder, os yw hynny'n briodol
5.2    faint sydd ohono
5.3    maint y pecyn
5.4    o fewn y dyddiad dod i ben
5.5    pecynnu heb ei dorri
6.    cymryd y cam gweithredu priodol os nad yw stoc y gofynnwyd amdano ar gael
7.    sicrhau bod eitemau wedi'u pecynnu a'u labelu'n ddiogel ac yn briodol i'w cludo
8.    sicrhau bod stoc wedi'i ddosbarthu i'r cyrchfan cywir gan ddefnyddio'r dull dosbarthu priodol
9.    gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
10.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. y gwahanol ffurfiau ar foddion a pham mae'n bwysig archebu niferoedd priodol o'r ffurf a'r cryfder cywir
  9. y gwahaniaeth rhwng moddion patent a moddion cyffredinol
  10. y cam gweithredu i'w gymryd os nad yw stoc yn addas at y diben
  11. pwysigrwydd gwirio'r stoc i'w gyflenwi yn erbyn rhybuddion/hysbysiadau adalw cyffuriau cyfredol
  12. y gweithdrefnau ar gyfer ymateb i geisiadau brys
  13. pwysigrwydd storio cynnyrch yn gywir, yn arbennig yng nghyswllt cynnal y gadwyn oer
  14. pa gynnyrch sydd angen pecynnu a chludiant arbennig a pham mae'n bwysig glynu at y gofynion arbennig hyn
  15. pwysigrwydd labelu pecynnau'n gywir i'w dosbarthu
  16. sut defnyddir awtomateiddio i reoli stoc
  17. sut mae cyflenwi stoc i'r cyrchfan cywir gan ddefnyddio'r dull dosbarthu cywir
  18. mewnbynnu ac adalw data stoc er mwyn sicrhau bod y lefelau'n briodol
  19. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB10
Cynnyrch i fodloni anghenion iechyd a llesiant


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fferyllol; stoc; cyflwyno; archebion; awtomateiddio; robotau; roboteg