Cynnal stoc fferyllol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu cynnal stoc fferyllol. Mae'n cynnwys sicrhau bod y stoc o fewn y dyddiad, yn cael ei storio'n briodol, mewn cyflwr addas a bod digon ohono. Mae hefyd yn cynnwys rheoli stoc a ddychwelwyd.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2. dilyn y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
2.1 cynnal stoc fferyllol
2.2 gwaredu stoc gwastraff
3. gwirio'r stoc yn rheolaidd, gan ddilyn canllawiau cytunedig, er mwyn sicrhau bod y stoc yn parhau:
3.1 wedi'i storio'n briodol ac mewn cyflwr addas
3.2 yn ddigonol o ran nifer
3.3 yn cyfateb i'r cofnodion cyfrifiadurol lle bo hynny'n briodol
4. cymryd y cam gweithredu priodol ynghylch:
4.1 problemau gydag ardaloedd /amodau storio
4.2 stoc sydd â dyddiad byr, sydd wedi mynd heibio'r dyddiad, sydd wedi'i ddifrodi neu sy'n ddiangen
4.3 gormodedd o stoc/dim digon o stoc
4.4 stoc sydd wedi cael ei ddychwelyd
5. sicrhau bod stoc yn cael ei gylchdroi i leihau gwastraff
6. gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
7. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8. y canllawiau cyfredol sy'n berthnasol i gynnal stoc fferyllol
9. y gwahanol ffurfiau ar foddion a pham mae'n bwysig archebu niferoedd priodol o'r ffurf a'r cryfder cywir
10. y cam gweithredu i'w gymryd ar unwaith pan dderbynnir rhybuddion ynghylch cyffuriau a hysbysiadau adalw gan gwmnïau
11. pwysigrwydd monitro a chynnal amgylchedd diogel, sicr a glân
12. gofynion storio gwahanol fathau o gynnyrch a pham maen nhw'n bwysig
13. pwysigrwydd rheoli stoc yn dda, gan gynnwys:
13.1 cylchdroi stoc
13.2 gwirio'r dyddiadau pan fydd stoc yn dod i ben
13.3 faint o stoc sydd, gan roi sylw i amrywiadau tymhorol
13.4 nodi stoc sydd wedi difrodi, wedi halogi neu wedi dirywio
14. pwysigrwydd gweithredu'n briodol os na fydd stoc ar gael
15. y cam gweithredu i'w gymryd os bydd stoc:
15.1 â dyddiad byr neu sydd wedi mynd heibio
15.2 wedi'i ddifrodi neu ei halogi
15.3 yn dwyn rhif swp y cyflwynwyd rhybuddion/hysbysiadau adalw cyffuriau yn ei gylch
15.4 wedi cael ei ddychwelyd i'r fferyllfa
16. y gweithdrefnau ar gyfer trafod a gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel
17. sut defnyddir awtomateiddio i reoli stoc
18. sut mae sicrhau bod lefelau stoc yn cael eu cynnal i ymateb i'r galw
19. mewnbynnu ac adalw data stoc er mwyn sicrhau bod y lefelau'n briodol
20. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: G3 Caffael a
Chomisiynu