Derbyn stoc fferyllol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu derbyn stoc fferyllol gan y cyflenwr a sicrhau ei fod yn cael ei storio'n briodol. Bydd gofyn hefyd eich bod yn adnabod ac yn delio gydag anghysondebau.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn
gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae
gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull
gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r
wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2. llofnodi eich bod yn derbyn yr archeb dim ond pan fyddwch wedi'ch bodloni bod yr holl eitemau a dderbyniwyd wedi dod i'r cyrchfan cywir
3. gwirio a chadarnhau nwyddau sy'n cael eu dosbarthu yn erbyn y nodyn dosbarthu a'r archeb wreiddiol
4. nodi unrhyw anghysondebau a phroblemau dosbarthu yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
5. cymryd camau prydlon a phriodol i unioni unrhyw anghysondebau a phroblemau dosbarthu
6. dilyn y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â:
6.1 symud a thrafod stoc a dderbyniwyd gan ddefnyddio'r cyfarpar cywir
6.2 gosod stoc a dderbyniwyd yn yr ardal storio gywir
6.3 cylchdroi stoc
7. hysbysu'r person priodol ynghylch argaeledd y stoc pan fydd y nwyddau a dderbynnir ar gyfer archeb arbennig, un sydd heb ei chyflawni, neu heb fod ar gael
8. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
8. y canllawiau cyfredol sy'n berthnasol wrth dderbyn stoc fferyllol
9. y gwahanol ffurfiau ar foddion a pham mae'n bwysig archebu niferoedd priodol o'r ffurf a'r cryfder cywir
10. pwysigrwydd sut gall derbyn stoc o'r ffurf a'r nifer cywir effeithio ar ofal unigolion
11. pwysigrwydd cyfeirio at rybuddion cyfredol ynghylch cyffuriau a hysbysiadau adalw gan gwmnïau pan dderbynnir stoc fferyllol
12. ffynonellau a chyflenwyr stoc
13. y cyfarpar a ddefnyddir wrth dderbyn stoc fferyllol
14. y cam gweithredu i'w gymryd os bydd stoc a dderbynnir:
14.1 heb fod ar yr archeb wreiddiol
14.2 heb gynnwys yr archeb gyfan
14.3 â dyddiad byr neu sydd wedi mynd heibio
14.4 yn dwyn y rhif swp anghywir
14.5 yn dwyn rhif swp y cyflwynwyd rhybuddion/hysbysiadau adalw cyffuriau yn ei gylch
14.6 wedi'i ddifrodi, ei halogi, neu os bydd amheuon mai nwyddau ffug ydyw
14.7 heb gael ei storio'n gywir wrth ei gludo
15. y camau i'w cymryd os na fydd stoc ar gael
16. sut mae rhoi gwybod i'r person priodol yn brydlon ynghylch argaeledd y stoc pan fydd y nwyddau a dderbyniwyd ar gyfer archeb arbennig neu un sydd heb ei chyflawni
17. gofynion storio gwahanol fathau o gynnyrch a pham maen nhw'n bwysig
18. pwysigrwydd cylchdroi stoc a storio stoc yn ddiogel
19. sut mae derbyn archeb i'r stoc
20. mewnbynnu ac adalw data stoc er mwyn sicrhau bod y lefelau'n briodol
21. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: G3 Caffael a
Chomisiynu